Mae cyflyrau iechyd meddwl yn gyffredin a bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai’n profi un, neu’n adnabod rhywun sydd wedi profi un. Mae un o bob pedwar oedolyn yn y DU yn profi, o leiaf, un cyflwr iechyd meddwl diagnosadwy mewn unrhyw un flwyddyn.
Yn 2008 canfu ymchwil Pwy rydych chi’n ei weld y Comisiwn bod pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn un o’r grwpiau a wahaniaethir yn eu herbyn mwyaf yng Nghymru gyda:
Yn dilyn y canfyddiadau hyn buom yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr iechyd meddwl o’r sector gwirfoddol ac ymarferwyr cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus i fynd i’r afael ag afiechyd meddwl yn y gweithle.
Mae ‘Doeddwn i ddim yn barod i dderbyn hynny’ yn sôn am hanes bywyd go iawn David a’i brofiadau o afiechyd meddwl a gwaith.
Hefyd gallwch ddarllen trawsgrifiad o ffilm David.
Rydym yn annog cyflogwyr i weithredu drwy ddefnyddio ein deunyddiau codi ymwybyddiaeth a chanllawiau. Rydym ni a’n partneriaid wedi pwyso a mesur ar y cyd yr hyn sy’n gwneud arfer a pholisi effeithiol, wedi diffinio’r achos busnes a chytuno ar strategaeth i hybu’r canllaw i eraill.
Rydym wedi datblygu set o becynnau cymorth y gallwch eu defnyddio yn eich gweithle i fynd i’r afael ag absenoldeb salwch a’r stigma sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl.
Wrth sicrhau bod gan eich gweithle bolisi iechyd meddwl effeithiol i’r staff gellir rheoli afiechyd meddwl yn fwy effeithiol gan elwa’r cyflogwr a’r aelod staff ill dau. Gall arfer effeithiol ostwng absenoldeb salwch, gwella cynhyrchiant a lleihau’r amser gwella. Wrth roi cymorth i aelodau staff gwerthfawr, rydych chi’n cadw medrau, gwybodaeth a phrofiad, a all fod yn anodd eu cael yn ôl o’u colli.