Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd yng Nghymru a’r ffaith bod llawer o’r liferi ar gyfer newid wedi’u datganoli, ynghyd â’r gwaith addawol sydd eisoes ar y gweill, rydym wedi clustnodi pedwar maes allweddol lle mae angen ymyrryd:
- Partneriaethau ac arweinyddiaeth: Mae rhaid i arweinyddion ddangos penderfyniad i gael gwared ag aflonyddu. Dylid annog partneriaethau sy’n atal ac yn ymateb i aflonyddu ac sy’n rhannu arfer dda, gan gynnwys trefnu Cynadleddau Asesu Risg Aml-Asiantaeth peilot.
- Dyletswyddau cydraddoldeb: Dylid defnyddio’r dyletswyddau cydraddoldeb newydd i flaenoriaethu mynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd.
- Gwarchod: Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno dull hawliau dynol o warchod.
- Adrodd helaethach: Rydym am weld fwy o adrodd achosion ac yn galw ar awdurdodau cyhoeddus i weithredu mesurau sy’n sicrhau profiadau adrodd cadarnhaol a chymorth effeithiol.