Creu Prydain Decach
Heddiw (dydd Mercher 24 Tachwedd) rydym yn lansio ein hymchwil Mwy nag ystadegyn sy’n torri cwys newydd. Mae’n cynnig cipolwg na welwyd erioed o’r blaen o fywyd y sawl yng Nghymru sydd â chyflwr iechyd meddwl, neu sydd yn Sipsiwn - Teithwyr, yn drawsryweddol neu’n geiswyr lloches neu ffoaduriaid.
Lleisiau cudd yw’r rhain – pobl sy’n byw yn ein cymdeithas a ddywedodd wrthym am eu profiadau o wynebu rhagfarn ac agweddau negyddol yn feunyddiol, yn y teulu ac yn y gymuned. Digwydda hyn yn y gweithle, y gymuned, y teulu, y cyfryngau ac wrth dderbyn gwasanaethau gan sefydliadau fel y gwasanaeth iechyd, cynghorau lleol a’r Heddlu.
Soniodd un fam Sipsiwn Teithwyr am y diffyg lle i chwarae oedd ar gael i’w phlant ar eu safle.
“Mae llygod mawr dros y lle” meddai. “Does dim dŵr gyda chi, dim toiledau, dim cawod , dim cyfleusterau ….does dim gennych, dim byd.”
Eglurodd un arall, menyw Trawsryweddol, sut yr oedd y posibilrwydd o wynebu tribiwnlys cyflogaeth a chyfreithiwr bygythiol ac ymosodol yn ei gwneud i deimlo’n hyd yn oed yn fwy ofnus ac yn agored i niwed. “Rwy’n ofni braidd y bydda i’n gwneud pethau’n waeth nag ydyn nhw eisoes” meddai.
Roedd cael mynediad at gyngor a gwasanaethau meddygol trwy’r GIG a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn anodd i lawer o bobl a oedd yn dioddef cyflyrau iechyd meddwl. Dywedodd un cyfranogwr ymchwil wrthym: “Cefais sgwrs chwerthinllyd gyda nhw ar y ffôn yn dweud wrthynt ‘ Rwy’n dioddef o agora ffobia, alla i ddim dod atoch chi, gaf i ymweliad gennych? Ac maen nhw’n gwrthod.”
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol i Gymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: “Mae’n hymchwil yn dangos sut mae peidio â chael bod yn ‘chi eich hun’ wedi gorfodi pobl i fyw eu bywydau fel y bon nhw’n ‘guddiedig’.“Ni all lawer o unigolion gael mynediad at eu hawliau, at gyfiawnder a chael y cyfle i gwyno.
Ychwanegodd: “Er gwaethaf y problemau a'r heriau, mae pobl yn awyddus i ganfod atebion ac i awgrymu camau i roi cyfle tecach i bawb."
Mae'r camau nesaf a’r atebion yn cynnwys gwell gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus, ffyrdd cliriach at gyngor i unigiolion a modelau rôl mwy positif yn cael eu portreadu gan y cyfryngau.