Lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng grwpiau sosio-economaidd – yn arbennig y rhai sy’n effeithio ar ddynion oedrannus ac iau.
Y dystiolaeth
Mae disgwyliad oes i bobl o gefndiroedd di-grefft yn saith mlynedd yn llai nag i bobl o gefndiroedd proffesiynol
Mae’r rhyngweithio rhwng rhywedd a grwpiau sosio-economaidd yn golygu y gall menyw broffesiynol ddisgwyl i fyw 12 blynedd yn fwy na dyn o gefndir di-grefft.
Mae cyfradd hunanladdiad yn gryn dipyn yn uwch i ddynion nag i fenywod ac mae’r risg yn llawer mwy ymysg grwpiau oedran iau na rhai hŷn.