Mae adroddiad Pwy sy'n Rhedeg Cymru? 2009 y Comisiwn yn rhoi darlun o fywyd yng Nghymru, gan gynnwys gwleidyddiaeth, iechyd, a’r sector preifat er mwyn asesu’r cydbwysedd rhyw ar fyrddau gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Ar y cyfan, ers adroddiad 2004 ni wnaed bron i ddim cynnydd o ran gwella cydbwysedd rhyw ar fyrddau blaenaf Cymru.
Casgliadau allweddol yn cynnwys:
- Yn ôl arolwg o 100 o gwmnïau preifat blaenaf Cymru nid oedd un prif weithredwr benywaidd (neu safle uwch cyfwerth) yng Nghymru. Ymatebodd naw deg tri o’r 100 o gwmnïoedd i’r arolwg.
- Dim ond 25% o gynghorwyr yng Nghymru sy’n fenywod. Nid oes un cynghorydd benywaidd Asiaidd na dduon yng Nghymru
- Dim ond 16% o benaethiaid ysgolion eilradd sydd yn fenywod er bod 74% o’r athrawon yn fenywod
- Dim ond 21% o Brif Weithredwyr awdurdodau lleol sydd yn fenywod o gymharu gyda 73% o’r holl staff.