
Iwan ap Dafydd ydw i. Rwyf newydd gael gwybod bod y swyddfa budd-daliadau wedi penderfynu talu fy mhensiwn i’m brawd, Sion, sy’n byw gyda mi. Penderfynwyd nad oes gen i’r ‘gallu meddyliol’ i drin yr arian fy hun. Dywedodd y swyddfa mai Apwynteiaeth neu rywbeth yw hyn ac na allaf apelio yn ei erbyn mewn unrhyw lys neu dribiwnlys.
Rwy’n anhapus iawn gyda’r sefyllfa ac rwy’n sôn am y mater wrth fy nghymorth yn y cartref, sy’n dweud na all y Llywodraeth ymyrryd gyda fy arian fel hyn o dan Erthygl 1 Protocol 1.
Mae gennych yr hawl i fwynhau eich eiddo’n heddychlon. Fel rheol, ni all awdurdodau cyhoeddus ymyrryd â phethau sydd yn eiddo i chi, nac â'r modd yr ydych yn eu defnyddio, ac eithrio dan amgylchiadau cyfyngedig penodedig.
Yn ôl i Stryd Urddas | Y tŷ nesaf