
Kathleen James ydw i. Rwy’n byw ar fy mhen fy hun. Ymddeolais fel Pennaeth 20 mlynedd yn ôl. Rwy’n annibynnol iawn ond dwi ddim yn gallu symud o gwmpas cystal erbyn hyn, yn enwedig ers i mi ddisgyn yn ddiweddar, ac rwyf bellach yn defnyddio cadair olwyn. Byddwn yn hoffi cael cadair olwyn drydanol y gallwn i ei defnyddio yn yr awyr agored, fel y galla i barhau i fynd allan ac ymweld â’m teulu a’m ffrindiau. Mae’r ysbyty wedi dweud wrtha i nad yw’r rhain yn cael eu darparu.
Rwyf yn dal i gadw mewn cysylltiad â rhai o’r hen aelodau staff. Dywedodd un ohonyn nhw fod gen i hawliau o dan Erthygl 14 – i beidio â dioddef gwahaniaethu (gan gynnwys ar sail anabledd) wrth ddefnyddio Erthygl 8, yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol .
Wrth i hawliau'r Confensiwn gael eu gweithredu, mae gennych yr hawl i beidio â chael eich trin yn wahanol oherwydd eich hil, eich crefydd, eich rhyw, eich safbwyntiau gwleidyddol nac unrhyw statws arall, oni bai bod modd cyfiawnhau hyn yn wrthrychol. Rhaid i bawb gael yr un hawl i ymarfer ei hawliau dan y Confensiwn, beth bynnag fo'i statws.
Yn ôl i Stryd Urddas | Y tŷ nesaf