Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb

Delegates at the Equality Exchange Conference 2010

Beth yw Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb?

Fforwm yw Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb a'i diben yw cyfnewid syniadau a chyngor i gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr sy'n ymroddedig o ran cyflawni cydraddoldeb yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaeth.

Pam ymaelodi â'r Rhwydwaith?

Bydd aelodau'r rhwydwaith yn

  • derbyn post yn rheolaidd i adael gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf o ran materion cydraddoldeb a hawliau dynol.
  • cael eu gwahodd i fynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau rheolaidd s'yn bwrw golwg ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r rhain yn cynnwys diweddariadau cyfreithiol ac enghreifftiau o ymarfer effeithiol.
  • cael cyfle i rwydweithio a rhannu ymarfer effeithiol gydag aelodau eraill sydd hefyd yn gweithio ym maes cydraddoldeb.

Sut i ymuno?

I ymuno â'r rhwydwaith, cwblhewch y ffurflen ymuno hon a'i hanfon yn ôl i wales@equalityhumanrights.com.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag emma.eccles@equalityhumanrights.com

 

Cynadleddau a Digwyddiadau Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb

Equality Exchange Conference 2010

 

Mae'r digwyddiadau'n rhanbarthol a chynhelir hwy trwy gydol y flwyddyn; rydym yn trefnu'r un ffurf ar gyfer Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth/Gorllewin Cymru. Mae mannau cyfarfod yn newid bob tro wrth i aelodau'r rhwydwaith eu cynnal.

Y pynciau a fu dan sylw'n ddiweddar iawn yw

  • Ymgysylltu â'r grwpiau yn ein cymdeithas sy'n cael eu gwahaniaethu fwyaf
  • Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb
  • Newidiadau yn sgil y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r effaith ar dimau Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol
  • Rheoli materion y gweithle: staff â chyflyrau iechyd meddwl a staff yn dioddef cam-drin domestig
  • Ymchwiliad Hawliau Dynol

 Fel rheol bydd ein cynhadledd flynyddol yn digwydd yng Nghanolbarth Cymru a rydd gyfle i'r rhwydwaith ddod at ei gilydd i glywed siaradwyr, cymryd rhan mewn gweithdai a rhwydweithio.

Mae themâu blaenorol i'r gynhadledd yn cynnwys:

Newyddion Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb

Rydym yn e-bostio pob aelod o leiaf unwaith bob mis gyda newyddion a diweddariadau.

Mae eitemau newyddion diweddar yn cynnwys:

Adnoddau Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb

 

Ar ôl ein digwyddiadau a'n cynadleddau byddwn yn anfon allan

  • copïau o gyflwyniadau perthnasol
  • dolenni gwefan at wybodaeth sydd o'n tyb ni'n ddefnyddiol neu a gafodd sylw yn ystod y dydd
  • adroddiad (wedi’r gynhadledd)

 Mae'r canlynol yn enghreifftiau o adnoddau a anfonwyd allan gennym:

  • Cyflwyniad ar y Ddeddf Cydraddoldeb.
  • Cyflwyniad ar Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (EIA)

Dolenni gwefan i ffynonellau o wybodaeth berthnasol a gafodd sylw yn y digwyddiadau:

 

back to top