Fforwm yw Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb sy'n ymrwymo i gyflawni cydraddoldeb yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaeth, a'i diben yw cyfnewid syniadau a chyngor i gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth.
Defnyddio’r cyfrifiad i hybu cydraddoldeb
Cynhelir y rownd nesaf o ddigwyddiadau ym mis Chwefror a Mawrth 2013 a bydd y ffocws ar Gyfrifiad 2011.
Agwedd Newydd at Degwch
Caiff Cynhadledd Gyfnewidfa Gydraddoldeb Flynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei chynnal eleni ar 5 Mehefin yn Llandrindod.

I ymuno â'r rhwydwaith, cwblhewch y ffurflen ymuno hon a'i hanfon yn ôl i wales@equalityhumanrights.com.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â kerry.wakefield@equalityhumanrights.com
Bydd aelodau'r rhwydwaith yn
Digwyddiadau Cyfnewidfa Gydraddoldeb: Hydref 2012
Canolbwyntiodd y digwyddiadau rhanbarthol hyn gan y Gyfnewidfa Gydraddoldeb ar:
Mae’r digwyddiadau hyn yn adeiladu ar gyfarfodydd blaenorol y Gyfnewidfa Gydraddoldeb a oedd yn cwmpasu gofynion y Dyletswyddau Penodol i Gymru. Cododd sesiynau gweithlu a monitro nodau cydraddoldeb rai cwestiynau pwysig, yn enwedig mewn perthynas â’r Adroddiad Blynyddol cyntaf.
Cododd y trafodaethau ar yr agenda gydraddoldeb benodol i Gymru nifer o themâu cyffredin ar draws y tri digwyddiad, megis iaith, fframwaith deddfwriaethol, poblogaeth yn heneiddio ac ewyllys aruthrol yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth i gyflawni llwyddiant.