Deg cwestiwn allweddol am y Ddeddf

1. Beth yw pwrpas y Ddeddf newydd?

A: Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dod â nifer o gyfreithiau presennol ynghyd mewn un lle fel y bo’n hawsach ei defnyddio. Mae’n amlinellu’r nodweddion personol a warchodir gan y gyfraith a’r ymddygiad sydd yn anghyfreithlon. Bydd symleiddio deddfwriaeth a chysoni diogelwch yr holl nodweddion gwarchodedig yn helpu Prydain i ddod yn gymdeithas decach, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu busnesau i berfformio’n dda. Ceir copi o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r nodau Eglurhaol arni ar wefan y Swyddfa Gartref.

________________________________________

2. Pwy a ddiogelir gan y Ddeddf?

A: Mae pawb ym Mhrydain yn cael eu diogelu gan y Ddeddf. Y “nodweddion gwarchodedig” o dan y Ddeddf yw (yn nhrefn yr wyddor):

  • Ailbennu rhywedd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Crefydd a chred
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  •  Hil
  • Oed
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Rhyw

________________________________________

3. Pa ymddygiad sy’n anghyfreithlon?

A: O dan y Ddeddf, ni chaniateir i bobl wahaniaethu, aflonyddu neu erlid person arall ag unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig ganddi/o. Mae, hefyd, ddiogelwch rhag gwahaniaethu lle rhagdybir y bod gan rywun un o’r nodweddion gwarchodedig neu y’u cysylltir hwy â rhywun a nodwedd warchodedig ganddi/o.

  •  Trin un person yn llai ffafriol nag un arall oherwydd nodwedd warchodedig yw gwahaniaethu (fe elwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol) neu
  • Sefydlu rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau sydd ag effaith fwy anffafriol ar rywun a nodwedd warchodedig ganddi/o nag un sydd heb un, a phan na ellir cyfiawnhau hynny’n wrthrychol (fe elwir hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol).
  • Mae aflonyddu yn cynnwys ymddygiad digroeso sy’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig a’i bwrpas a’i effaith yw treisio urddas rhywun neu greu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, sarhaus neu dramgwyddus i rywun a nodwedd warchodedig ganddi/o.
  • Erledigaeth yw trin rhywun yn anffafriol oherwydd eu bod wedi cymryd (neu efallai ar gymryd) camau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb neu’n cefnogi rhywun sy’n gwneud hynny. 

 ________________________________________

4. Pwy sydd â chyfrifoldeb o dan y Ddeddf?

  • Adrannau’r Llywodraeth
  • Darparwyr gwasanaeth
  • Cyflogwyr
  • Darparwyr addysg (Ysgolion, Colegau Addysg Bellach ac Uwch a Phrifysgolion)
  • Darparwyr swyddogaethau cyhoeddus
  • Cymdeithasau a chyrff aelodaeth
  • Darparwyr cludiant

 ________________________________________
 

5. Beth sydd yn newydd?

A: Roedd y rhan fwyaf o’r Ddeddf Cydraddoldeb eisoes yn bod yn y cyn cyfreithiau gwrth-wahaniaethu y’u disodlir ganddi. Mae hyn yn cynnwys Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae cyfanswm o naw darn deddfwriaeth sylfaenol a dros 100 o ddarnau is-ddeddfwriaeth wedi’u hymgorffori ynddi. Bydd dod â’r rhain ynghyd o dan un darn deddfwriaeth yn gwneud y gyfraith yn hawsach i’w deall a’i defnyddio.

Gan fod y Ddeddf yn cyfuno a chysoni cyfraith bresennol, nid oes ond ychydig o newidiadau mawr. Er enghraifft, caiff gwahaniaethu anuniongyrchol ei estyn i gynnwys anabledd ac ailbennu rhywedd, am y tro cyntaf. Bydd gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd yn gymwys i ysgolion am y tro cyntaf. Mae’r ddeddf, hefyd, yn cyflwyno rhai darpariaethau newydd, megis gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd.

________________________________________

6. Pryd ddaw’r Ddeddf Cydraddoldeb i rym?

A: Yn ôl Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth, daeth 90 y cant o’r ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010. Neilltuodd y Llywodraeth y deg y cant sy’n weddill i’r ochr am ei bod eisiau ystyried yn fwy manwl sut y gallai, efallai, weithio. Gorchwyl y Llywodraeth yw penderfynu pryd i roi’r rhannau hyn o’r Ddeddf ar waith. Ar wefan y Swyddfa Gartref, ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â gweithredu’r Ddeddf Cydraddoldeb.

7. Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

A: Bydd yr hyn sydd yn rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar eich rôl a’r sefyllfa yr ydych ynddi. Gall unrhyw un sydd am fynd i’r afael â’r gyfraith ymgymryd â’n canllaw i ddechreuwyr ar y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n rhagdybio nad oes gennych unrhyw wybodaeth flaenorol ynglŷn â chyfraith gydraddoldeb. Dylai roi syniad ichi o’r hyn y dylech fod yn ei hystyried.

________________________________________

8. Beth yw rôl y Comisiwn wrth sicrhau bod pobl yn deall y gyfraith newydd ac yn ei chynnal?

A: Yn ogystal ag egluro’r gyfraith, gallwn ei gorfodi. Diogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb yw’r cylch gwaith a gawsom gan y llywodraeth.

Eglurhad: Mae ein tîm o arbenigwyr wedi ysgrifennu cyfres o ganllawiau yn gymorth i roi’r Ddeddf ar waith yn llwyddiannus, a cheir ef yma: www.equalityhumanrights.com/ea2010

a)    Codau Ymarfer: Mae’r dogfennau hyn yn egluro beth y mae rhaid i gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Pan fydd llys yn penderfynu a yw rhywun wedi gweithredu’n anghyfreithlon ai peidio, gall ystyried y methiant i ddilyn y canllaw ar y Codau Statudol.

Daeth tri chod ymarfer i rym ar 6 Ebrill 2011:

  • Cyflogaeth
  • Cyflog Cyfartal
  • Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau.

Lawr lwyddo’r Codau ymarfer 
 
Byddwn, hefyd, yn llunio Codau Ymarfer ar:

  • Addysg Bellach ac Uwch (yr ymgynghoriad yn rhedeg o 1 Hydref 2010)
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus( dyddiad i’w gadarnhau)
  • Ysgolion (dyddiad i’w gadarnhau)

b)    Canllaw anstatudol: Ysgrifennir y canllaw hwn mewn arddull ‘sut i’ fwy ymarferol a bydd yn darparu llawer o enghreifftiau, awgrymiadau ac arwyddion ffyrdd i ffynonellau pellach o gyngor a gwybodaeth. Nid oes grym cyfreithiol iddo mewn llys. Mae dau fersiwn o bob darn o ddeddfwriaeth. Anelir y naill at y rheiny a chanddynt gyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth newydd a’r llall at unigolion sydd am wybod am eu hawliau o dan y ddeddf newydd.

Mae’r canllaw anstatudol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cwmpasu:

  • Cyflogaeth (gan gynnwys Cyflog Cyfartal)
  • Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau
  • Addysg
  • Dyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Gorfodaeth:

Yn ogystal â darparu cyngor i unigolion a sefydliadau, fel rheolydd, mae gennym bwerau i orfodi’r gyfraith. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys helpu pobl unigol gyda’u hachosion cyfreithiol yn ogystal â chymryd camau cyfreithiol yn erbyn sefydliadau yr ydym yn amau iddynt dorri’r gyfraith. Ceir rhagor o fanylion am waith y Comisiwn ynglŷn â gorfodaeth yn adran Cyfraith a Pholisi’r wefan.
________________________________________

9. All y Comisiwn ddweud wrthyf os wyf wedi dioddef gwahaniaethu o dan y Ddeddf?

A: Mae cyngor a chanllaw ar ein gwefan a gall ein llinell gymorth eich cyfeirio at y cyfeiriad cywir o ran y gyfraith, ond llys sy’n penderfynu os yw amgylchiadau neilltuol yn torri’r gyfraith. Os ydych yn ystyried camau cyfreithiol, dylech yn ein tyb ni gael cyfreithiwr neu far gyfreithiwr i’ch helpu. Gyda rhai achosion, gall y Comisiwn efallai helpu pobl os yw’n ymwneud â maes cydraddoldeb sy’n aneglur neu ag amgylchiadau lle byddai buddugoliaeth bendant yn gwella bywydau cynifer o bobl drwy osod cynsail newydd o ran cyfraith achosion.

Gwefan: www.equalityhumanrights.com

Llinellau cymorth cenedlaethol:

Lloegr: 0845 604 6610 Yr Alban: 0845 604 5510 Cymru: 0845 604 8810
________________________________________

10. Lle gallaf ganfod mwy?

A: Gellir canfod gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r Ddeddf newydd ar ein gwefan yma:

www.equalityhumanrights.com/ea2010

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb a nodiadau eglurhaol ar wefan y Swyddfa Gartref. Mae’r adran hon o’r llywodraeth, hefyd, wedi llunio nifer o becynnau cymorth parod.
 

back to top