
Mae’r byd digidol yn rhoi nifer o rwystrau i bobl anabl. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan sefydliadau rwymedigaeth gyfreithiol i’w cwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol fel ei gilydd, i sicrhau bod eu holl sianelau TG a cheisiadau yn hygyrch i bobl anabl sydd efallai yn defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau ac offer mynediad at y rhyngrwyd.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, AbilityNet a BCS, y Sefydliad TG Siartredig wedi datblygu’r unig gynnyrch o’i fath yn y Deyrnas Unedig - y cwrs e-ddysgu Hanfodion Hygyrchedd Gwefan. Cynlluniwyd y cwrs ar-lein 80 munud a chost-effeithiol hwn i roi dealltwriaeth sylfaenol o gynhwysiant digidol i unigolion a busnesau sydd â diddordeb ynglŷn â’r arfer orau ym myd hygyrchedd.
Bydd gorffen y cwrs e-ddysgu Hanfodion Hygyrchedd Gwefan yn arwain i dystysgrif cyflawniad, gan alluogi’r sawl a fydd yn gorffen y cwrs a phrawf byr i rannu ei sgiliau ymysg cydweithwyr a chynllunwyr, datblygwyr a chynhyrchwyr gwefan eraill.
Mae Hanfodion Hygyrchedd Gwefan yn darparu offer i’ch helpu i brofi hygyrchedd ymhob un o’r camau wrth ddatblygu gwefan. Hefyd, mae’n darparu safonau hyfforddi cydnabyddedig i nodi problemau defnyddio a sut i’w datrys yn hawdd.
Mewn gwirionedd, synnwyr busnes da yw gwefan hygyrch gan ei bod yn:
*Ffynhonell: Legal and General
Archebwch feddalwedd y cwrs drwy ffonio: 0330 123 9194 neu anfon e-bost at waesupport@hq.bcs.org.uk.
Canfyddwch fwy yn: www.bcs.org/wae