Darparu mynediad i addysg effeithiol

Mae’r hawl i addysg yn hawl ddynol sylfaenol. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i adrannau addysg awdurdodau lleol (neu awdurdodau addysg yn yr Alban) sicrhau bod addysg am ddim ar gael i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol (plant 5-16 oed ar hyn o bryd) sy’n byw yn eu hardal. Dylai’r addysg a ddarperir fod yn briodol i’w hoed, galluoedd, tueddfryd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddyn nhw.

 Mae’n rhaid sicrhau bod llefydd ysgol ar gael yn yr ardal i bob unigolyn ifanc 16 i 18 oed sydd am le. Yn Lloegr, dylid sicrhau bod llefydd ar gael mewn colegau chweched dosbarth i’r rhai 16 i 19 oed. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i bobl sydd wedi’u magu yn yr ardal ond hefyd i unrhyw unigolyn ifanc sy’n byw yn yr ardal am ddigon o amser i fynychu ysgol, megis:

  • plant sydd â rhieni yn y lluoedd arfog
  • plant sydd wedi dod o dramor, a
  • phlant Sipsiwn a Theithwyr (gan gynnwys y rhai sy’n byw ar safleoedd dros dro).

O dan gynigion diweddar gan y llywodraeth, gall y gyfraith yng Nghymru a Lloegr newid yn fuan i’w gwneud hi’n ofynnol i bobl ifanc aros mewn addysg neu hyfforddiant nes y byddant yn 18 oed. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gan adrannau addysg awdurdodau lleol neu awdurdodau addysg gyfrifoldebau ychwanegol i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael. Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu trafod ac ni fydd y gyfraith yn newid o gwbl am nifer o flynyddoedd.

back to top