Y man cychwyn ar unrhyw ymdrech i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle yw asesu’r hyn yr ydych yn ei wneud yn barod ac edrych am feysydd lle y gallwch wella.
Gall hyn gynnwys:
Cynhyrchodd y cyn Comisiwn Cyfle Cyfartal ganllaw ar holl feysydd cyflog cyfartal.
Mae polisi cydraddoldeb yn mynegi agwedd eich sefydliad i hawliau a chydraddoldeb yn y gweithle. Wrth lunio polisi swyddogol rydych yn ymrwymo’ch hunan i hawliau a chydraddoldeb y gellir eich dal yn gyfrifol amdanynt.
Polisi effeithiol:
Canfyddwch fwy drwy edrych ar sampl y polisi cyfle cyfartal a gynhyrchwyd gan y cyn Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Cynhwysir sampl y polisi yn Atodiad 2 o’r Cod Arfer Statudol ar Gydraddoldeb Hiliol yn y byd Cyflogi.
Mae eich cynllun gweithredu’n olrhain amcanion eich polisi cydraddoldeb ac yn rhestru:
Mae cynllun gweithredu da yn sicrhau bod amcanion eich polisi cydraddoldeb yn cynnig newidiadau gwirioneddol a gwelliannau yn eich arfer da.
Dylech sicrhau fod eich gweithwyr i gyd yn gyfarwydd â’r polisi a’r cynllun gweithredu, a sut fydd y rheiny’n effeithio ar eu gwaith. Mae hynny’n neilltuol o bwysig i :
Datblygu polisi cydraddoldeb a chynllun gweithredu: gwybodaeth bellach
Darllenwch ganllaw manwl a gweld enghraifft o bolisi cydraddoldeb
Edrychwch ar gyhoeddiadau a gynhyrchwyd ar ddatblygu polisïau cydraddoldeb.
Peidiwch ag aros nes i gŵyn gael ei wneud cyn datblygu gweithdrefn gwynion. Dylech sicrhau bod eich staff i gyd yn gyfarwydd â’r weithdrefn - drwy hyfforddiant neu sefydliad - a dylai gynnwys manylion o:
Mae angen gysylltu eich gweithdrefn ar gyfer archwilio cwynion i weithdrefnau a chodau disgyblu , fel y gellir gweithredu ar gwynion cyfiawnadwy.
Os nad yw canlyniad eich gweithdrefn gwynion yn bodloni’r achwynydd, gallant godi achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os digwydd hynny, bydd rhaid i chi:
Darllenwch ganllaw o Acas ar ddatblygu gweithdrefnau disgyblu ac achwyniadau.Datrysiad anghydfod statudol a chymod
Dylech bob amser geisio datrys cwyn neu achwyniad drwy ei drafod â’r bobl sy’n gysylltiedig âg ef. Dylai tribiwnlysoedd cyflogaeth fod y cam olaf posib bob amser : gellir datrys anghydfodau yn aml drwy gymod neu gyflafareddu, naill yn fewnol neu drwy ddefnyddio gwasanaeth allanol fel Acas.
Ystyriwch ddarparu hyfforddiant i reolwyr ar sut i drin y cyfnodau cynnar anodd hynny o anghydfod. Hefyd gallech ystyried hyfforddi eich canolwyr mewnol. Mae Acas yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ynglŷn â datrys anghydfod a chyflafareddu.
Fel cyflogwr mae’n hanfodol y byddwch yn monitro cynnydd yn erbyn eich cynllun gweithredu a gweithredu os nad yw’n ateb y meini prawf.
Ystyriwch eich cynllun gweithredu o ddifrif: gwnewch yn siwr yr adolygir y cynnydd yn rheolaidd gan staff uwch.
Adnabyddwch a gwobrwch arfer da ym myd cydraddoldeb ac amrywiaeth. Amlygwch enghreifftiau da mewn cyfathrebu mewnol fel taflenni newyddion staff, a datblygwch gynllun gwobrwyo priodol ar gyfer y bobl sy’n gysylltiedig.