Cyflwyniad i ganllawiau

Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i’r canllawiau anstatudol sydd wedi’u datblygu i gefnogi’r Codau Ymarfer ac sy’n cynnig ffyrdd ymarferol a defnyddiol o gyflawni’r dyletswyddau. Mae rhai o’r canllawiau hyn yn ddefnyddiol i bob corff cyhoeddus, ac mae eraill wedi’u hysgrifennu ar gyfer sectorau penodol.

Cyn i chi ddefnyddio’r canllawiau hyn, dylech nodi mai’r Codau Ymarfer yw’r dogfennau statudol hanfodol y mae angen i bob awdurdod cyhoeddus eu dilyn i sicrhau eu bod yn bodloni eu holl gyfrifoldebau cyfreithiol.

Mae’r canllawiau cyffredinol yn berthnasol i bob corff cyhoeddus, gyda gwybodaeth am brosesau fel asesiadau o effaith, casglu a defnyddio gwybodaeth, monitro ethnig, ymgynghori, partneriaethau’n datblygu amcanion, cynhyrchu cynllun, cyflogaeth a chaffael nwyddau a gwasanaethau. Hefyd, amlinellir canllawiau penodol ar gyfer gwahanol sectorau fel iechyd, addysg, llywodraeth leol a chyfiawnder troseddol.

 

 

back to top