Creu Prydain Decach
Cyflwynwyd y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol mewn deddfwriaeth yn Neddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000. Mae’n golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i:
Dyma’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol gyffredinol.
Mae’r dyletswyddau penodol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob corff cyhoeddus rhestredig gyhoeddi cynllun cydraddoldeb hiliol sy’n nodi’r holl swyddogaethau/polisïau sy’n berthnasol i gydraddoldeb hiliol. Dylai gael amserlen a chynllun realistig a fydd yn amlinellu trefniadau’r corff cyhoeddus ar gyfer cyflawni’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Dylai hefyd amlinellu trefniadau ar gyfer:
Er nad yw hi’n ofynnol diwygio ac ailgyhoeddi’r cynllun cydraddoldeb hiliol bob tair blynedd, rydym yn argymell y dylai cyrff cyhoeddus wneud hynny.
O dan y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, mae’n rhaid i bob ysgol a sefydliad addysg bellach ac uwch gynhyrchu polisi cydraddoldeb hiliol, sef datganiad ysgrifenedig o’u polisi ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn yng nghodau ymarfer y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol.
O dan y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus rhestredig fonitro ei staff yn ôl grŵp hiliol (gan ddefnyddio categorïau Cyfrifiad 2001) ar gyfer: staff mewn swydd a cheisiadau am gyflogaeth, dyrchafiad a hyfforddiant. Hefyd, mae’n rhaid i gyflogwyr sydd â thros 150 o staff fonitro ar gyfer hyfforddiant, arfarniadau perfformiad, cwynion, camau disgyblu a rhesymau dros adael eu swydd. Dylid cyhoeddi’r canlyniadau hyn yn flynyddol.
Mae’r dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru yr un fath â’r dyletswyddau a amlinellir uchod ar gyfer Lloegr.
Mae’r dyletswyddau penodol ar gyfer yr Alban yr un fath â’r dyletswyddau a amlinellir uchod ar gyfer Lloegr.