Creu Prydain Decach
Cyflwynwyd y ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl mewn deddfwriaeth yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Diwygio) 2005. Mae’n golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i:
Dyma’r ddyletswydd gyffredinol ar gyfer cydraddoldeb i bobl anabl.
Mae’r dyletswyddau penodol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob corff cyhoeddus rhestredig gyhoeddi cynllun cydraddoldeb i bobl anabl, gan ddangos sut y mae’n bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau cyffredinol a phenodol. Dylai cyrff cyhoeddus gynnwys pobl anabl wrth ddatblygu’r cynllun, defnyddio’r cynllun gweithredu a amlinellir yn y cynllun ac adolygu a diwygio’r cynllun bob tair blynedd.
Dylai’r cynllun gynnwys:
Dylai cyrff cyhoeddus gyflwyno adroddiad blynyddol ar y camau a gymerir yn y cynllun gweithredu, canlyniadau’r gwaith casglu gwybodaeth a sut mae’r wybodaeth hon wedi’i defnyddio.
Mae’r ddyletswydd benodol derfynol yn ei gwneud hi’n ofynnol i adrannau rhestredig y llywodraeth gyhoeddi adroddiad wedi’i lofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol. Dylai hyn amlinellu trosolwg o gynnydd ar gydraddoldeb i bobl anabl, yn ogystal â chynigion ar gyfer camau gweithredu cydgysylltiedig rhwng awdurdodau yn y sector i ddatblygu cydraddoldeb i bobl anabl. I ddarllen mwy am ddyletswydd ac adroddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol, cliciwch yma .
Mae’r ddyletswydd benodol derfynol yn gofyn i adrannau’r Llywodraeth a rhestrwyd i gyhoeddi adroddiad wedi’i arwyddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol priodol. Dylai hyn osod allan olwg cyffredinol ar y cynnydd ar gydraddoldeb anabledd yn ogystal â chynigion am weithredu ar y cyd rhwng awdurdodau yn y sector i wella cydraddoldeb ar sail anabledd. Darllenwch fwy am ddyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol ac adroddiadau yma.
Mae’r dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru yr un fath â’r dyletswyddau a amlinellir uchod ar gyfer Lloegr. Fodd bynnag, mae dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Lloegr yn berthnasol i Weinidogion Cymru.
Mae’r dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru yr un fath â’r dyletswyddau a amlinellir uchod ar gyfer Lloegr. Fodd bynnag, mae dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Lloegr yn berthnasol i Weinidogion yn yr Alban.