Creu Prydain Decach
Cyflwynwyd y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol mewn ddeddfwriaeth yn Neddf Cydraddoldeb 2006, yn diwygio’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Mae’n golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i:
Cewch weld y cod ymarfer ar y dudalen hon.
Mae’r dyletswyddau penodol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob corff cyhoeddus rhestredig gynhyrchu cynllun cydraddoldeb rhywiol, gan ddangos sut y mae’n bwriadu cyflawni’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Dylai hefyd amlinellu’r amcanion cydraddoldeb rhywiol y mae’r awdurdod wedi’u nodi ar gyfer cyflawni’r ddyletswydd.
Wrth baratoi cynllun, dylai corff cyhoeddus:
Dylai’r cynllun:
Dylai’r cynllun gael ei roi ar waith o fewn tair blynedd. Dylai awdurdodau cyhoeddus gyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd ac adolygu a diwygio’r cynllun bob tair blynedd o leiaf.
Ar hyn o bryd, nid oes yna ddyletswyddau rhywiol penodol ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, o ran eglurder a thryloywder, argymhellir y dylai awdurdodau cyhoeddus ddatblygu cynllun cydraddoldeb rhywiol yn amlinellu eu hamcanion mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol a’r camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny. Dylent flaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd mwyaf arwyddocaol o ran anghydraddoldeb rhywiol yn eu cylch gwaith a chymryd camau sy’n debygol o sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cydraddoldeb rhywiol.
Mae’r dyletswyddau penodol ar gyfer yr Alban yr un fath â’r dyletswyddau ar gyfer Lloegr, ond mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus rhestredig yn yr Alban ag o leiaf 150 o aelodau staff cyfwerth ag amser llawn gyhoeddi datganiad polisi cyflog cyfartal, a chyflwyno adroddiad ar hyn bob tair blynedd hefyd.
Mae’n rhaid i Weinidogion yr Alban gyhoeddi adroddiadau bob tair blynedd, yn ogystal â chynllun cydraddoldeb a datganiad cyflog cyfartal Gweithrediaeth yr Alban. Bydd yr adroddiadau hyn yn amlinellu’r meysydd blaenoriaeth y mae Gweinidogion wedi’u nodi ar gyfer gwella cyfle cyfartal ledled y sector cyhoeddus, a darparu crynodeb o gynnydd a wnaed gan y sector cyhoeddus yn y meysydd blaenoriaeth hyn.