Creu Prydain Decach
Ym mis Gorffennaf 2008, cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau i gyflwyno dyletswydd cydraddoldeb newydd. Bydd y ddyletswydd hon yn cwmpasu’r saith maes cydraddoldeb, sef hil, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd/cred, oedran a chyfeiriadedd rhywiol.
Ni fydd y ddyletswydd yn dod i rym tan 2011, felly mae hi’n bwysig i gyrff cyhoeddus barhau i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y dyletswyddau cydraddoldeb rhywiol, hiliol a chydraddoldeb i bobl anabl yn y cyfamser.