Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol

Rhoddodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ddyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, sef y ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl. Mae’r ddyletswydd yn gosod gofynion penodol ar rai Ysgrifenyddion Gwladol i gyhoeddi adroddiad bob 3 blynedd, gan amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran cydraddoldeb i bobl anabl ledled eu sector polisi a chynigion ar gyfer camau gweithredu cydgysylltiedig. Yn yr Alban, mae’n rhaid i Weinidogion hefyd gyhoeddi adroddiadau bob 3 blynedd.

Mae’r ddyletswydd ar Ysgrifenyddion Gwladol yn gyfle da i Lywodraeth fynd ati ar y cyd i adolygu cynnydd tuag at gydraddoldeb i bobl anabl yn eu sectorau polisi ac i gynnig camau gweithredu cydgysylltiedig i wella perfformiad. Yng Nghymru, mae gan y Prif Weinidog ddyletswydd i gyhoeddi adroddiadau ar ran Llywodraeth y Cynulliad ar sut mae awdurdodau cyhoeddus mewn meysydd datganoledig yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl.

Adrannau sy’n cynhyrchu Adroddiadau Ysgrifenyddion Gwladol

  • Gwaith a Phensiynau
  • Iechyd
  • Trafnidiaeth
  • Plant, Ysgolion a Theuluoedd
  • Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
  • Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau
  • Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio
  • Y Swyddfa Gartref
  • Cyfiawnder
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r adroddiadau

Mae’r Comisiwn yn asesu adroddiadau Ysgrifenyddion Gwladol i sicrhau cydymffurfiaeth a bydd y Comisiwn yn defnyddio’r adroddiadau i:

  • sefydlu llinell sylfaen ar gynnydd tuag at gydraddoldeb i bobl anabl ar draws rhannau perthnasol o’r sector cyhoeddus
  • dylanwadu ar ein blaenoriaethau polisi 
  • llywio ein hadroddiad tair blynedd ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Cynnwys pobl anabl

Hoffai’r Comisiwn glywed barn pobl anabl am adroddiadau Ysgrifenyddion Gwladol. Rydyn ni am gael eich sylwadau ar:

  • a yw’r meysydd polisi mwyaf perthnasol mewn perthynas â chydraddoldeb i bobl anabl wedi cael sylw digonol
  • y cynnydd hyd yma 
  • a yw’r camau gweithredu cydgysylltiedig arfaethedig yn debygol o sicrhau canlyniadau gwell i bobl anabl.

Anfonwch eich sylwadau i: SOSduty@equalityhumanrights.com 

Lawrlwytho’r adroddiadau

Mae’r Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl wedi cynhyrchu crynodeb o’r enw 'Secretary of State Reports on Disability Equality - Overview'. I weld y ddogfen hon a holl adroddiadau Ysgrifenyddion Gwladol yn 2008, ewch i wefan y Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl.

Mae adroddiad Llywodraeth y Cynulliad i’w weld yn yr adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ei gwefan.
 

back to top