Etholiadau a chysylltiadau hiliol da canllaw i awdurdodau lleol yn Lloegr a Chymru

Mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu’r cyfarwyddyd hwn mewn ymateb i gynigion gan gynghorau lleol, ysgolion, a sefydliadau cymunedol am gyngor ar sut i gynnal a hyrwyddo cysylltiadau hiliol da yn ystod cyfnod etholiad. Mae’r cyfarwyddyd yn egluro’r ddeddfwriaeth briodol ac yn awgrymu rhai camau ymarferol y gallai cynghorau a grwpiau cymunedol hwyrach gymryd mewn tri maes:

  • Herio gwybodaeth gyfeiliornus neu gamarweiniol
  • Defnyddio adeiladau’r cyngor ar gyfer cyfarfodydd a 
  • Mynd i’r afael ag ymgyrchoedd o aflonyddu a chamdriniaeth hiliol.

Mae gan lawer o gynghorau a grwpiau cymunedol fesurau mewn lle’n barod a byddan nhw’n gweithio trwy bartneriaethau anrhefn a throsedd neu bartneriaethau strategol lleol. Prif argymhellion y Comisiwn yw y dylai cynghorau a grwpiau cymunedol:

  • Gynllunio’u strategaethau ymlaen llaw
  • Meddwl yn fras am y deddfau sydd ar gael iddynt, a chyd-drefnu defnydd y deddfau gwahanol - sifil, troseddol, hawliau dynol a chyfansoddiadol  a
  • Chasglu data a gwybodaeth, y defnyddir hwyrach naill i wrthddweud honiadau camarweiniol neu fel rhan o’r dystiolaeth wrth gefnogi achos troseddol neu sifil.

Nid yw’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn osodiad awdurdodol o’r gyfraith a dylid ei dderbyn fel cyngor ar arfer dda’n unig. Anogir cynghorau’n gryf i geisio cyngor cyfreithiol os cawn eu hunain mewn sefyllfa anodd, neu pan fydd problemau’n codi.

Lawr lwytho’r ddogfen ganllaw lawn:

back to top