Gwneud addasiadau rhesymol

Dylech fod yn gyfarwydd â'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol gan fod y cyfryw ddyletswydd wedi ei chyflwyno o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o dan y Ddeddf Gydraddoldeb yn gweithredu ychydig yn wahanol ac wedi ei hymestyn i gynnwys darpariaeth ysgol o gymhorthion a gwasanaethau atodol; fodd bynnag nid yw'r elfen hon o'r ddyletswydd, eto, mewn grym. Yr un yw bwriad y ddyletswydd: osgoi cyn belled â phosib drwy ddull rhesymol yr anfantais y mae disgybl anabl yn ei brofi yn sgil ei anabledd.

Mae’r ddyletswydd hon yn cyd-fynd â’ch dyletswyddau chi ac eiddo awdurdodau lleol eraill o dan Adran 4 Deddf Addysg 1996. Mewn rhai achosion gall y cymorth y byddo disgybl anabl yn ei dderbyn o dan y fframwaith anghenion addysgol arbennig olygu nad yw’n dioddef anfantais sylweddol (gweler isod) ac felly nid oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ychwanegol ar ei gyfer. Mewn achosion eraill fe all fod angen addasiadau rhesymol ar ddisgyblion anabl yn ogystal â’r ddarpariaeth addysgol arbennig y maent yn ei derbyn. Mae yna hefyd ddisgyblion anabl sydd heb
anghenion addysgol arbennig ond y mae angen serch hynny wneud addasiadau rhesymol ar eu cyfer. Mae lefel y cymorth y mae disgybl yn ei dderbyn o dan Adran 4 Deddf Addysg 1996 yn un o’r ffactorau i’w hystyried wrth i chi gloriannu beth fyddai’n rhesymol i chi orfod ei wneud.

Gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion anabl - Word

Beth yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol?

Mae'n ofynnol i chi gymryd camau rhesymol i osgoi anfantais sylweddol lle bo darpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi disgyblion anabl o dan anfantais sylweddol.

Mae arnoch y ddyletswydd hon i ddisgyblion cyfredol, ymgeiswyr ac mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyn-ddisgyblion anabl mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

  • Penderfynu i bwy y cynigir lle fel disgybl
  • Darparu addysg
  • Mynediad i unrhyw fudd, gwasanaeth neu gyfleuster

Nid yw'r ddyletswydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi'r anfantais a achosir gan nodweddion corfforol gan fod y dyletswyddau cynllunio yn darparu ar gyfer hyn.

Ni allwch gyfiawnhau methu gwneud addasiad rhesymol; lle bo'r ddyletswydd yn codi, y ddadl fydd pa un a yw gwneud yr addasiadau neu beidio yn 'rhesymol' a chwestiwn gwrthrychol yw hwn i'r tribiwnlysoedd yn y pen draw i'w bennu.

Dyletswydd barhaus yw hon sydd yn ei lle am y gellir rhagweld sefyllfaoedd ac y mae'n un y mae arnoch i ddisgyblion anabl yn gyffredinol, pa un a ydych yn gwybod bod disgybl penodol yn anabl ai peidio a pha un a oes gennych unrhyw ddisgyblion anabl yn eich gofal ar y pryd ai peidio. Ni ddylech aros nes bod disgybl anabl unigol yn dod atoch cyn ystyried sut i gyflawni'r ddyletswydd. Yn hytrach dylech gynllunio ymlaen llaw ar gyfer yr addasiadau rhesymol y gall fod angen i chi eu gwneud, pa un a oes gennych unrhyw ddisgyblion anabl ar y pryd ai peidio. Drwy ragweld yr angen i wneud addasiadau y byddwch yn y sefyllfa orau i gynorthwyo disgyblion anabl sy'n dod i'ch ysgol. Nid oes disgwyl i chi ragweld anghenion pob darpar ddisgybl ond mae'n ofynnol i chi feddwl a chymryd camau rhesymol a chymesur i oresgyn rhwystrau allasai lyffetheirio disgyblion a chanddynt wahanol fathau o anableddau.

 Er enghraifft,

er y gallai fod yn briodol i chi ddarparu print mawr i ddisgybl a chanddo ddiffyg ar ei olwg, ni fyddai disgwyl i chi fod ag offer Braille yn ei le yn barod.
 

Beth yw anfantais sylweddol?

Anfantais sy'n fwy nag un bychan neu bitw yw 'anfantais sylweddol'. Caiff lefel yr anfantais a grëir gan ddiffyg addasiadau rhesymol ei fesur o'i gymharu â'r hyn fyddai'r sefyllfa pe na bai gan y disgybl dan sylw anabledd.

Bydd yn rhaid i chi ystyried nifer o ffactorau wrth bwyso a mesur pa un a yw'r anfantais yn un sylweddol ai peidio megis:

  • Yr amser a'r ymdrech allasai fod angen eu cysegru gan blentyn anabl
  • Yr anghyfleustra, y diffyg urddas neu'r anghysur allasai plentyn anabl ei ddioddef
  • Y colli cyfle neu'r crebachu ar gynnydd allasai ddod i ran plentyn anabl o'i gymharu â chyfoedion nad ydynt yn anabl.

Er enghraifft:

Mae Rhian yn fyddar. Fe'i cynghorir gan y cydlynydd profiad gwaith y byddai'n well iddi aros yn yr ysgol yn hytrach na mynd ar brofiad gwaith gan y gallai fod yn 'rhy anodd' iddi ymdopi ag ef. Nid yw'r ysgol yn gwneud unrhyw gamau i helpu Rhian ddod o hyd i leoliad ac mae'n colli'r cyfle a gaiff gweddill ei dosbarth. Byddai hyn yn anfantais sylweddol.

Y ddyletswydd i newid darpariaeth, maen prawf neu arfer

Ni ddiffinnir y telerau hyn ond yn gyffredinol maent yn ymwneud â sut y mae addysg ynghyd â buddion, cyfleusterau a gwasanaethau eraill yn cael eu darparu ac maent yn cynnwys eich holl drefniadau, polisïau, dulliau gweithredu a gweithgareddau.

Lle bo darpariaeth, maen prawf neu arfer yn gosod disgyblion anabl o dan anfantais sylweddol wrth gael mynediad i addysg ac unrhyw fudd, gyfleuster neu wasanaeth, rhaid i chi gymryd unrhyw gamau ag sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau er mwyn sicrhau nad yw'r ddarpariaeth, y maen prawf neu'r arfer bellach yn cael effaith o'r fath. Gallasai hyn olygu hepgor maen prawf neu roi'r gorau i arfer yn gyfan gwbl ond yn aml bydd yn ymwneud ag estyn yr hyblygrwydd a'r ymagweddu unigolyddol y mae'r rhan fwyaf o ysgolion eisoes yn eu dangos yn eu hymwneud â'u disgyblion.

Er enghraifft:

Clustnodwyd tri lle i ddisgyblion ysgol gynrychioli'r ysgol mewn cynhadledd genedlaethol i ieuenctid ar yr amgylchedd. Mae'r ysgol yn penderfynu cynnal dadl ar y pwnc er mwyn dethol y tri disgybl fydd yn mynd i'r gynhadledd. Mae hyn yn gosod Rhys, sy'n dioddef diffyg ar ei system nerfol, o dan anfantais arbennig gan fod ganddo drafferth cyfathrebu ar lafar. Mae'r ysgol yn cymhwyso'r meini prawf i alluogi Rhys i gyflwyno'i farn a'i syniadau ar y pwnc ar bapur. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol ar arfer yr ysgol.
 

Pryd mae’n rhesymol i ysgol orfod gwneud

Man cychwyn defnyddiol wrth bennu beth fyddai hyd a lled addasiad rhesymol yw ystyried sut i sicrhau bod disgyblion anabl yn gallu ymwneud â phob agwedd ar fywyd ysgol. Yn aml nid yw gwneud addasiadau effeithiol ac ymarferol yn golygu fawr ddim cost nac ymyrraeth.

Er enghraifft:

Mae athro bob amser yn wynebu'r dosbarth wrth eu hannerch er mwyn sicrhau bod disgybl ag anawsterau clywed yn gallu darllen gwefusau. Dyma enghraifft o addasiad rhesymol syml.

Mae ysgol gynradd yn cyflwyno system ffrind amser chwarae a mainc cyfeillgarwch sy'n creu man cefnogol a chyfeillgar i
ddisgyblion anabl yn ystod amser egwyl. Dyma enghraifft o addasiad rhesymol effeithlon ond hawdd ei gyflawni.

Lle bo disgyblion anabl yn cael eu gosod o dan anfantais sylweddol gan ddarpariaeth, maen prawf neu arfer neu gan absenoldeb cymorth ychwanegol, rhaid i chi ystyried a ellir gwneud addasiadau rhesymol i oresgyn yr anfantais honno.

Ni ddylech ddisgwyl i ddisgyblion anabl awgrymu addasiadau ond os gwnânt hynny dylech ystyried a fyddai'r cyfryw addasiadau'n gymorth i oresgyn yr anfantais ac a yw'r awgrymiadau'n rhai rhesymol. Arfer da yw i ysgolion gydweithio gyda disgyblion a'u rhieni wrth bennu sut y gellir gwneud addasiadau rhesymol.

back to top