Mae’r tudalennau yn yr adran hon yn eich tywys drwy’r hawliau sydd gennych, a’r sefyllfaoedd lle y maent yn gymwys.
Mae’n anghyfreithlon i chi gael eich trin yn anheg yn y gweithle neu mewn hyfforddiant yn y gweithle ar sail oedran. Darganfodwch rhagor am wahaniaethu ar sail oedran a sut a lle y gallai effeithio arnoch.
Ni ddylai eich crefydd a’ch cred, neu y rheing o rhywun arall effeithio ar eich hawl am driniaeth teg yn y gweithle, yn yr ysgol, mewn siopau neu wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel gofal iechyd a thai. Dysgwch rhagor am wahaniaethu ar sail crefydd yn yr adran hon.
Os oes gennych nam corfforol neu feddyliol, mae gennych hawliau penodol sy'n eich diogelu rhag wahaniaethu. Mae rhaid i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau wneud gymwysiadau ar eich cyfer. Canfyddwch fwy, a pheth i'w wneud os oes angen cymorth arnoch.
Ni ddylai gwragedd, dynion na phobl drawsrhywiol cael eu trin yn anheg oherwydd eu rhyw, neu eu bod yn briod neu yn magu teulu. Mae’r adran hon yn egluro eich hawliau a sut i’w defnyddio.
Mae gennych yr hawl i driniaeth teg lle bynnag y cawsoch eich geni, neu o ble death eich rhieni’n wreiddiol, neu beth bynnag yw lliw eich croen. Mae’r adran hon yn egluro’r hawliau sydd yn eich amddifyn rhag wahaniaethu ar sail hil a rhagfarn.
Ni ddylech fod ar eich anfantais beth bynnag eich statws rhywiol. Darganfyddwch rhagor am wahaniaethu yn y gweithle, yn cynnwys erledigaeth, ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn yr adran hon.
Yn Hawliau mewn amgylchiadau gwahanol, gallwch ganfod sut y diogelir hawliau mewn amgylchiadau gwahanol, megis wrth ddysgu neu gael hyfforddiant, gweithio neu edrych am waith, neu wrth gyrchu gwasanaethau fel gofal cymdeithasol ac iechyd, trafnidiaeth neu dai.
Mae hawliau dynol wedi’u corffori yng nghyffraith y DU, ac maent yn rhoi hawliau a rhyddid i chi, nad ydynt efallai yn dod o dan adain deddfwriaeth gwahaniaethu. Yn yr adran hon byddwn yn eich tywys drwy’r hyn a olygir yn wirioneddol gan hawliau dynol ynglŷn â’ch diogelwch, eich hurddas,eich rhan mewn cymdeithas a’ch bywyd preifat.