Anabledd mewn addysg

Os ydych chi’n ddisgybl neu fyfyriwr anabl mewn ysgol neu mewn addysg uwch neu bellach, neu os ydych chi’n ddarpar ddisgybl neu fyfyriwr ac o’r farn bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y gallwch chi herio hyn o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA).

Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr addysg eich trin yn llai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd neu fethu â gwneud addasiadau rhesymol i’ch atal rhag dod dan anfantais sylweddol.

Mae yn erbyn y gyfraith i ddarparwyr addysg wahaniaethu yn eich erbyn chi yn y meysydd canlynol:

  • derbyn myfyrwyr (yn cynnwys ceisiadau lleoli);
  • y cwricwlwm, addysgu a dysgu a gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer myfyrwyr - gan gynnwys ymweliadau a theithiau ysgol, chwaraeon ysgol, cyfleusterau hamdden a phrydau bwyd ysgol, llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu, profiad gwaith a llety myfyrwyr; neu
  • trwy eich gwahardd o sefydliad neu gwrs addysg.
     

Rhaid i ddarparwyr addysg ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol fel rhan o’u dyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol, yn ogystal ag addasiadau i’w heiddo lle mae yna nodweddion ffisegol sy’n eich rhoi chi dan anfantais sylweddol.
 

back to top