Creu Prydain Decach
Mae’r DGSA yn rhoi enghreifftiau o addasiadau y gall fod yn rhaid i gyflogwr eu gwneud os yw’n hynny’n rhesymol.
Un prawf o’r hyn sy’n rhesymol yw os yw’r addasiadau yn costio unrhyw beth hyd at gost recriwtio a hyfforddi gweithiwr cyflogedig newydd, yna mae hynny’n rhesymol.
Mae’r rhestr hon yn rhoi rhai enghreifftiau (gall fod yna ragor) ac efallai y bydd angen cymryd un neu fwy o gamau fel bo angen.
Os oes rhan o’ch swydd yn anodd neu’n amhosibl ei chyflawni, efallai y gall fod yn rhesymol i gael rhywun arall i wneud y dasg honno, neu ailstrwythuro’r tîm fel bo’r dasg yn cael ei chyflawni mewn ffordd arall.
Ar ôl ystyried addasiadau rhesymol, os ydych chi’n dal i fethu â chyflawni prif agweddau swyddogaeth arbennig, efallai y gellid ystyried symud swyddi o fewn sefydliad. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn ‘rhesymol’ mewn cwmni mawr gyda gwahanol fathau o swyddogaethau. Sefydlodd achos cyfreithiol diweddar (Archibald) y gallai fod yn rhesymol weithiau i ystyried symud rhywun i swydd uwch.
Gallai newid neu gwtogi eich oriau gwaith olygu bod modd i chi barhau yn eich swydd. Efallai y bydd llai o oriau yn golygu llai o gyflog ond gellid cael credydau treth yn lle’r cyflog, er enghraifft.
Os ydych chi’n gweld bod y man gweithio neu hyfforddi rheolaidd yn anodd efallai y gallwch symud i adran neu adeilad arall. Weithiau gweithio o gartref yw’r ateb.
Caniatáu i’r unigolyn fod yn absennol yn ystod oriau gwaith neu hyfforddiant ar gyfer adferiad, asesiad neu driniaeth.
Os oes angen amser i ffwrdd yn ystod oriau gwaith arnoch chi i fynd i apwyntiadau ar gyfer eich cyflwr iechyd neu anabledd, mae’n ‘rhesymol’ disgwyl hyn gan eich cyflogwr ar yr amod nad yw’n bosibl ad-drefnu’r apwyntiadau y tu allan i oriau gwaith.
Rhoi, neu drefnu, hyfforddiant neu fentora (boed hynny ar gyfer yr unigolyn anabl neu unrhyw un arall)
Os oes angen i chi fynychu digwyddiadau hyfforddi, efallai y bydd angen i’ch cyflogwr addasu’r sesiynau fel eich bod chi’n gallu manteisio’n llawn ar yr hyfforddiant. Efallai y bydd hyn yn golygu cael cefnogaeth ychwanegol neu drefnu ffordd newydd o gael gwybodaeth, megis mentora neu ddysgu ar-lein.
Enghraifft
Roedd Samantha, sef menyw 26 oed sydd ag anabledd dysgu cymedrol ac yn gymharol drwm ei chlyw wedi gweithio i gaffi am saith mlynedd. Penderfynodd y cyngor lleol bod yn rhaid i’r holl staff gael tystysgrif ‘Hylendid Sylfaenol’. Roedd Samantha, ei rhieni a’r cyflogwr yn bryderus iawn y byddai’i swydd yn y fantol os na fyddai’n llwyddo.
Prynodd y cwmni hyfforddiant undydd i’r staff i gyd, gydag arholiad ysgrifenedig ar y diwedd. Defnyddiodd Samantha raglen Cam at Waith a, chyn yr hyfforddiant, canfu’r cyflogwr a’r darparwr Cam at Waith gwrs ‘Hylendid Bwyd Sylfaenol’ mewn coleg lleol i bobl ag anableddau dysgu.
Mynychodd Samantha’r cwrs, sef tair awr yr wythnos am bedair wythnos cyn yr hyfforddiant staff (gyda chyflog llawn). Mynychodd y diwrnod hyfforddi staff wedyn gyda chyfieithydd iaith arwyddion oedd yn arbenigo mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu. Safodd y prawf ar y diwrnod gyda chymorth y cyfieithydd iaith arwyddion. Cytunodd y corff dyfarnu iddi gael y cymorth hwn. Pasiodd Samantha’r cwrs a chafodd gadw’i swydd.
Un ffordd y gall eich cyflogwr eich cynorthwyo o bosibl yw trwy ddarparu neu addasu offer i fod yn addas i’ch anghenion arbennig chi - er enghraifft, trwy ddarparu man gorffwys arddyrnau os ydych chi’n cael trafferth teipio am unrhyw gyfnod neu CCTV i weithiwr cyflogedig sydd ag anawsterau gweld. Os oes gennych chi nam ar eich clyw, efallai y gallwch chi ddefnyddio ffôn yn y gwaith wedi’i addasu gyda theclyn chwyddo sŵn neu efallai y bydd arnoch chi angen ffôn testun. Gall y cynllun Mynediad i Waith dalu am lawer o’r darnau offer hyn.
Os na allwch chi ddefnyddio deunydd ysgrifenedig, er enghraifft llawlyfrau offer a chyfeirio, polisïau a gweithdrefnau ar wacáu’r safle yn achos tân, adroddiadau ac ati, yna gallai eich cyflogwr drosi’r rhain i fformatau hygyrch, megis print bras, tâp sain neu fapiau meddwl (os oes gennych chi ddyslecsia).
Enghraifft
Bu Simon, sy’n ddall, yn paratoi pecynnau o sgriwiau i’w cynnwys mewn pecynnau dodrefn-mewn-darnau. Pan oedd archebion newydd yn cyrraedd, byddai ei ddarllenydd personol (yr oedd Mynediad i Waith yn talu amdano) yn darllen y manylion ar dâp. Roedd Simon yn defnyddio’i recordydd sain (yr oedd Mynediad i Waith hefyd wedi talu amdano) i wrando ar y tapiau a oedd yn rhoi’r holl gyfarwyddiadau yr oedd pecynwyr eraill yn eu dilyn iddo.
Efallai eich bod chi’n pryderu ynglŷn â’r ffordd y byddwch chi’n cymryd rhan mewn sesiwn asesu neu brofi fewnol – er enghraifft ar gyfer dyrchafiad. Mae’n rhesymol disgwyl i’ch cyflogwr wneud y digwyddiadau hyn yn hygyrch i chi. Efallai y gall hyn gynnwys darparu gweithiwr cynnal, defnyddio profion ymarferol yn hytrach nag ysgrifenedig, rhoi amser ychwanegol neu ddarparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig mewn fformatau gwahanol.
Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn defnyddio profion seicometrig i asesu deallusrwydd, tueddfryd, personoliaeth ac ysgogiad. Dim ond pobl sydd wedi’u hyfforddi’n addas ddylai gyflawni a dehongli profion o’r fath a dylid gofyn am gyngor arbenigol a ellir newid y prawf i ystyried anabledd neu faterion iechyd, a sut mae gwneud hynny. Fodd bynnag, gall hyn gynnwys amser ychwanegol i chi ddarllen os oes gennych chi ddyslecsia neu ddarparu cyfieithwyr iaith arwyddion os ydych chi’n fyddar.
Dylai’ch cyflogwr ofyn i chi am unrhyw broblemau y gall fod gennych chi o safbwynt y profion a sut y gellid goresgyn y rhain. Gallent:
Efallai y byddwch chi angen rhywun i ddarparu cefnogaeth gyfathrebu i chi yn y gwaith neu mewn cyfweliad, o bosibl trwy ddarllen gwybodaeth ysgrifenedig ar dâp neu ddarparu cyfieithiad iaith arwyddion uniongyrchol. Mae prinder cyfieithwyr iaith arwyddion a staff cymorth cyfathrebu trwy’r wlad felly mae angen i’ch cyflogwr chi gynllunio ymlaen llaw.
Efallai y bydd angen cymorth a goruchwyliaeth ychwanegol arnoch chi yn enwedig pan fyddwch chi’n dechrau mewn swydd newydd. Os caiff hwnnw ei ddarparu mae’n bwysig bod y sawl sy’n eich cynorthwyo chi yn cael ei ryddhau o rai o’i ddyletswyddau eraill fel ei fod ef neu hi yn gallu cyflawni’r swyddogaeth ychwanegol. Mae hyn yn cyfrif fel addasiad rhesymol.
Enghraifft
Dechreuodd Ahmed, dyn 32 oed sydd â chyflwr iechyd meddwl, weithio i gadwyn fanwerthu bwyd sydyn. Roedd Ahmed wedi gorffen lleoliad chwe wythnos ar y rhaglen paratoi at waith ac wedi cael cynnig gwaith am dâl gan ddefnyddio’r rhaglen Cam at Waith. Nid oedd ganddo fawr o hunanhyder felly roedd angen mwy o amser gan y goruchwylydd i dawelu’i feddwl ei fod yn gwneud ei waith yn iawn.
Ar y cychwyn rhoddodd y tŷ bwyta ddau oruchwylydd ar y shifftiau yr oedd Ahmed yn gweithio arnyn nhw. Talodd Cam at Waith am y gost ychwanegol o wneud hyn. Wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen, penderfynodd Ahmed, y darparwr Cam at Waith a’r cyflogwr bod angen llai a llai o’r cymorth ychwanegol. Cafodd ei ostwng yn raddol dros dri mis cyn dod â’r cymorth i ben yn gyfan gwbl.
Bu Ahmed yn gweithio’n llwyddiannus yn y swydd hon am 18 mis ac wedyn roedd ganddo’r hyder i ddychwelyd i’r proffesiwn peirianneg yr oedd ganddo gymwysterau ynddo.
Bydd yn haws i rai sefydliadau nag eraill wneud newidiadau oherwydd natur eu busnes.
Yn y tabl isod ceir rhai awgrymiadau syml ar gyfer addasiadau creadigol penodol y gellir eu gwneud ar gyfer rhai anableddau a chyflyrau iechyd. Nodwch nad yw’r rhestr yn gyflawn ac efallai na fydd yr addasiadau yn gweithio i bawb.
| Nam | Tasg /anhawster | Addasiad |
| Clyw | Cymryd rhan mewn cyfarfodydd | Palanteipydd |
| Clyw | Galwad ffôn | Ffôn fideo neu ffôn testun |
| Golwg neu gyflyrau gorbryder | Gweithiwr cyflogedig newydd yn cyrraedd y gwaith | Cydweithiwr yn cyfarfod ag ef neu hi wrth y safle bws |
| Dyslecsia | Ysgrifennu adroddiad | Meddalwedd mapio meddwl |
| Dyslecsia | Cymryd rhan mewn cyfarfodydd | Rhoi cyfnodion ymlaen llaw. Cofnodion mewn testun hawdd ei ddeall. |
| Asthma difrifol | Gwaith maes o amgylch Llundain | Tacsis i'r drafnidiaeth gyhoeddus agosaf at apwyntiadau ac oddi yno |
| Epilepsi | Cyfarfodydd hir ar ddiwrnodau poeth iawn | Cymryd egwyl yn aml, digon o ddiodydd oer a ffan ar gael |
| Anabledd dysgu | Cymryd cofnodion | Dictaffon ac amser ychwanegol i'w teipio |
| Lwpws | Mynychu gwaith yn llawn amser trwy'r flwyddyn | Gweithio hyblyg, megis oriau cywasgedig |
| Clyw | Cael manylion lleoliad yr apwyntiad nesaf | Cyfathrebydd Nokia |
| Anhwylder breichiau yn gysylltiedig â gwaith | Diwrnod gweinyddol | Meddalwedd amseru sy'n cloi bob 20 munud |
| Atal dweud | Cyfarfodydd tîm | Hyfforddiant i'r holl staff arall |
| Poen cefn difrifol | Gweithio wrth ddesg dalu | Asesiad ergonomig llawn ac egwyl rheolaidd |
| Awtistiaeth | Bod yn rhan o dîm newydd | Neilltuo cyfaill i egluro 'diwylliant' y swyddfa |
| Iselder | Dyletswyddau derbynfa o 8am | Addasu amserau shifftiau i amser 'gorau'r dydd' yr unigolyn - ar ôl 11am |
| Pryder / pyliau o banig | Teithio ar adeg prysura'r dydd | Addasu diwrnod gwaith i 11-7 |