Iechyd a diogelwch yn y gweithle

Os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd, mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r DGSA yn eich diogelu chi. Bydd adegau pan fydd swydd neu dasg arbennig yn achosi’r fath risg iechyd a diogelwch i chi fel nad yw hi’n rhesymol i gyflogwr adael i chi ei chyflawni.  Ar y llaw arall, prin yw’r enghreifftiau o’r fath a ni ddylid fyth defnyddio iechyd a diogelwch fel esgus ffug dros beidio â’ch cyflogi neu beidio â pharhau i’ch cyflogi chi.

O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith rhaid i gyflogwyr, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, sicrhau iechyd, diogelwch a lles pob gweithiwr cyflogedig. Rhaid i bob cyflogwr asesu risg y gweithgareddau y mae gweithwyr yn eu cyflawni. Mae’r model asesu risg yn ystyried y risgiau ychwanegol i rai grwpiau o weithwyr. Efallai y byddwch chi, fel unigolyn anabl, yn perthyn i’r categori hwn. Os bydd eich cyflogwr yn meddwl bod unrhyw berygl iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â’ch recriwtio neu’ch cadw chi, yna mae’n rhaid iddo ystyried addasiadau rhesymol o dan y DGSA.

Mae ansawdd yr asesiad risg yn allweddol. Efallai y bydd angen i’ch cyflogwr ddefnyddio staff arbenigol a rhaid i’r sawl sy’n asesu:

  • ganolbwyntio arnoch chi fel unigolyn, nid pobl â’ch cyflwr chi’n gyffredinol;
  • ystyried y ffeithiau;
  • peidio â rhagdybio;
  • cael cyngor meddygol penodol unigol; a
  • siarad â chi ynglŷn ag unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud.

Hefyd, dylai’r asesiad risg ystyried elfennau hanfodol y swydd; am ba hyd y mae unrhyw sefyllfaoedd peryglus yn parhau a pha mor aml maent yn codi; ac unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i leihau’r risg.

Os oes yna risg annerbyniol o hyd, hyd yn oed ar ôl gwneud addasiadau, gallai’r cyflogwr yn gyfreithlon eich diswyddo neu beidio â’ch cyflogi. Y cwestiwn sy’n codi yw beth sy’n ‘annerbyniol’: a dim ond y llysoedd all roi hyn ar brawf. Fwyfwy mae cynsail cyfraith achos yn cael ei sefydlu sy’n rhoi canllawiau pellach i gyflogwyr.

Mae’r penderfyniad ynglŷn â’ch cyflogi neu eich cadw mewn swydd yn nwylo’r cyflogwr. Os bydd yn gofyn am gyngor arbenigol gan y gwasanaethau meddygol neu arbenigwyr iechyd a diogelwch, bydd y rhain yn asiantwyr i’r cyflogwr, ac mae’n ddyletswydd ar y cyflogwr i sicrhau bod yr arbenigwyr wedi ystyried y ffeithiau i gyd.

Os oes gennych chi neu’ch cyflogwr bryderon am eich iechyd a’ch diogelwch, cysylltwch â’ch cynghorydd iechyd a diogelwch, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Fforwm Cyflogwyr ar Anabledd.

 

Peryglon tân a lifftiau

Un peth y mae cyflogwyr yn pryderu amdano’n aml wrth ystyried cyflogi unigolyn anabl yw beth fyddai’n digwydd yn achos tân. Diffyg gwybodaeth sy’n sail i hyn yn aml, gyda chyflogwyr yn meddwl yn anghywir na ddylid cyflogi defnyddwyr cadair olwyn am na fydden nhw’n gallu dianc o adeilad sydd ar dân pan nad yw’r lifftiau’n gweithio. Gall pobl wahaniaethu yn erbyn pobl fyddar, rhai sydd â nam ar eu clyw a phobl ddall hefyd am eu bod o’r farn anghywir na fyddan nhw’n gwybod bod larwm tân yn canu neu y byddan nhw o bosibl ‘dan draed’ cydweithwyr sy’n ceisio dianc.

Os oes gennych chi anabledd a all achosi anhawster yn ystod tân yn eich gweithle, mae angen i chi gael trafodaeth a chytuno ar gynllun gyda’ch rheolwr llinell a/neu reolwr y safle ynglŷn â hyn. Efallai bod yna newidiadau syml iawn y gellir eu gwneud i atal hyn rhag bod yn broblem:

  • darparu goleuadau sy’n fflachio fel larymau, yn ogystal â phethau sy’n gwneud sŵn;
  • gwneud yn siŵr bod gan gydweithwyr sy’n gweithio gyda phobl fyddar ymwybyddiaeth sylfaenol o iaith arwyddion a materion yn ymwneud â byddardod;
  • sefydlu system gyfeillio i sicrhau bod defnyddwyr cadair olwyn yn cael cymorth mewn argyfwng;
  • neilltuo tywyswyr wedi’u henwi ar gyfer unigolyn sydd â nam ar y golwg yn achos tân;
  • darparu mannau lloches dros dro i ddefnyddwyr cadair olwyn wrth ymyl drysau gwrthdan ac sydd â llwybr diogel i’r allanfa derfynol (efallai y bydd modd cyfathrebu â phwynt rheoli canolog o’r lloches hefyd); neu
  • hyfforddi staff yn y cynlluniau ar gyfer gwacáu’r safle.

Dylai’r holl staff dan sylw fod yn ymwybodol o’r cynlluniau hyn a dylid eu profi’n rheolaidd. Dylai cynllun gwacáu sydd wedi’u bwyso a’i fesur yn ofalus ystyried pob unigolyn yn yr adeilad, gan gynnwys, er enghraifft, menywod yng nghamau olaf beichiogrwydd. Yn aml iawn gall hyn gynorthwyo i wella gweithdrefnau a diogelwch yn gyffredinol.

Efallai y byddwch chi am drafod eich anghenion yn gyfrinachol, ac os felly dim ond rhai unigolion allweddol fydd ag angen gwybod am eich cynllun unigryw.

 

back to top