Creu Prydain Decach
Gall arfarniadau ac adolygiadau rheolaidd roi cyfle i chi gael sgwrs gyda’ch rheolwr ynglŷn â thasgau neu gyfrifoldebau newydd penodol ac unrhyw addasiadau neu gymorth y gall fod ei angen arnoch chi. Efallai hefyd y byddwch chi am drafod hyfforddiant neu ddyrchafiad. Gall fod yn amser da i gael sgwrs ynglŷn â’r ffordd y mae eich anabledd neu gyflwr iechyd chi yn cael ei reoli yn fwy cyffredinol yn y gwaith a chrybwyll unrhyw ffyrdd y gall fod wedi cyfrannu at eich llwyddiannau.
Dylai’ch rheolwr llinell sicrhau bod y gwaith papur a’r cyfarfod yn hygyrch i chi a bod gennych chi ddigon o amser a gwybodaeth i baratoi.
Mae anghenion hyfforddiant a datblygiad yn cael eu nodi fel rhan o’ch arfarniad/rheoli llinell fel arfer. Un o’r ffyrdd pwysicaf y gall eich cyflogwr gynorthwyo’ch datblygiad yw trwy hyfforddiant, a dylai wneud yn siŵr y gallwch chi ddilyn yr holl hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig i weithwyr cyflogedig eraill. Dylai wneud hyn trwy ymgynghori â chi ar y ffyrdd gorau o wneud hyfforddiant yn gynhwysol, megis anfon taflenni atoch chi cyn y diwrnod, darparu mentora dilynol, cael egwyl yn amlach neu ddarparu hyfforddiant dros gyfnod hirach o amser.
Mae’ch cyflogwr yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod darparwyr hyfforddiant yn cydymffurfio â gofynion y DGSA.
Dyma sut y gellir addasu hyfforddiant:
Mae’n bwysig hefyd eich bod chi’n gallu cymryd rhan lawn yn holl ddigwyddiadau’r gwaith, cyfarfodydd tîm, briffio e-bost a diwrnodau cwrdd i ffwrdd. Eto, efallai y gallwch chi roi cyngor ar y ffordd orau o wneud hyn. Mae rhai addasiadau posibl yn cynnwys defnyddio meddalwedd ‘mapio meddwl’ i ddarparu gwybodaeth, trefnu cyfarfodydd tîm â chyfieithwyr iaith arwyddion a threfnu lleoliadau a thrafnidiaeth hygyrch ar gyfer diwrnodau cwrdd i ffwrdd.
Efallai hefyd y bydd angen i chi gael hyfforddiant wedi’i lunio’n arbennig ar eich cyfer chi: er enghraifft, er mwyn defnyddio unrhyw addasiadau neu offer arbennig a ddarparwyd, neu ail-hyfforddi i’ch cynorthwyo i aros yn eich swyddogaeth gyfredol neu addasu i swyddogaeth newydd.
Mae prentisiaethau modern ar gael i bobl ifanc 16-24 oed. Maen nhw’n para rhwng blwyddyn a thair blynedd a gallant eich cynorthwyo chi i gael profiad ymarferol o weithio, ennill cymwysterau ac ennill arian ar yr un pryd.
O safbwynt y cyflogwr maen nhw’n gyfle i wella sgiliau’r gweithlu a chadw staff da.
Mae Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru a Lloegr (Hyfforddi ar gyfer Gwaith yn yr Alban) yn ffordd gadarnhaol o hyfforddi neu ennill profiad gwaith gwerthfawr yn gysylltiedig â’r gwaith rydych chi am ei wneud.
Gall eich cynorthwyo chi i gael swydd, dysgu sgiliau cysylltiedig a / neu ddysgu am hunangyflogaeth. Mae hyfforddiant sylfaenol ar gael hefyd i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i ddod yn fwy cyflogadwy.
Cynllun ar gyfer y rhai dros 25 oed yw hwn yn bennaf, ond gall rhai pobl anabl fod yn gymwys o 18 oed ymlaen.
Byddwch chi'n cytuno ar gynllun hyfforddi i fodloni’ch anghenion penodol. Tra byddwch chi’n hyfforddi byddwch yn cael lwfans sy’n cyfateb i unrhyw fudd-dal y mae hawl gennych chi ei chael yn ogystal â £10 yr wythnos, a chymorth hefyd o bosibl ar gyfer treuliau megis teithio a gofal plant.
Os cewch chi gynnig swydd cyn gorffen hyfforddi, efallai y byddwch chi’n dal i allu cwblhau’r cynllun hyfforddi y cytunwyd arno.