Creu Prydain Decach
O dan y ddeddf hawliau dynol a’r ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu, mae gennych hawl i arddel eich credoau crefyddol eich hun neu unrhyw gredoau athronyddol tebyg i grefydd. Mae gennych hawl i fod yn anffyddiwr hefyd.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich crefydd neu’ch cred (neu oherwydd nad oes gennych unrhyw grefydd na chred):
Er hynny, mae ambell eithriad lle gall gwahaniaethu fod yn gyfreithlon. Mae mwy o wybodaeth yn y rhan hon o’r wefan.
O dan ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu a hawliau dynol Prydain, mae gennych hawl i ddilyn eich crefydd neu’ch cred, mynegi’ch safbwyntiau a byw bywyd bob dydd heb brofi bygythiadau neu wahaniaethu.
I wybod mwy am eich hawliau cyfreithiol, a beth i’w wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail crefydd neu gred, ewch i’r tudalennau canlynol: