O dan gyfraith Ewropeaidd newydd, os ydych yn anabl ac yn cael anhawster wrth symud mae gennych hawl i gael cymorth pan fyddwch yn hedfan i Ewrop ac oddi yno.
Nid oes angen i chi fod yn anabl yn barhaol neu'n anabl yn gorfforol i fanteisio ar yr hawliau hyn. Mewn gwirionedd, gall unrhyw un sy'n cael anhawster wrth symud, er enghraifft oherwydd eu hanabledd, eu hoedran neu anaf dros dro, gael cymorth pan fyddant yn hedfan.
Mae'r canllaw byr hwn yn rhoi trosolwg i chi o'ch hawliau ac yn esbonio'r hyn y gallwch ei wneud yn sicrhau bod eich taith yn un ddidrafferth o'r dechrau i'r diwedd.
Fe welwch fod y term 'unigolyn â lefelau symudedd is' yn cael ei ddefnyddio gan rai cwmnïau hedfan a meysydd awyr ledled Prydain Fawr. Dyma'r term cyfreithiol a ddefnyddir i ddiffinio teithwyr awyrennau sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas oherwydd ffactorau megis anabledd neu oedran.