Cam Chwech - Mynd ar yr awyren

Fel arfer bydd cwmnïau awyrennau yn gwahodd teithwyr anabl a'r rheini â lefelau symudedd is i fynd ar yr awyren yn gyntaf. Os na allwch ddringo'r grisiau, bydd y ffordd rydych yn mynd ar yr awyren yn dibynnu ar y sefyllfa a'r offer a ddefnyddir.

  • Os bydd yr awyren wrth adeilad y derfynell ac os defnyddir pont, bydd hon yn rhoi mynediad gwastad i'r caban.
  • Os na allwch gerdded at eich sedd bydd angen i chi symud i gadair olwyn a ddefnyddir at y diben hwn.
  • Efallai y bydd angen i chi gael eich trosglwyddo ar fws. Bydd gan y bysiau hyn lawr isel fel arfer i'w gwneud yn bosibl i chi fynd ar y bws yn hawdd.
  • Bydd llawer o feysydd awyr yn defnyddio lifftiau siswrn (a elwir yn aml yn 'ambiwlifftiau') a fydd yn golygu bod modd cael mynediad gwastad at ddrws yr awyren.
  • Wrth fynd ar awyren llai o faint, mae'n fwy cyffredin i beiriannau dringo grisiau neu gadeiriau mynediad gael eu defnyddio. 
     

Hyfforddi staff

Mae'n rhaid i'r holl staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd sy'n teithio mewn meysydd awyr neu ar awyrennau gael hyfforddiant i godi eu hymwybyddiaeth o anableddau. Bydd gan rai aelodau o staff, fel y rheini a gyflogir i roi cymorth uniongyrchol, fwy o hyfforddiant arbenigol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd staff yn arbenigo mewn pob math o anabledd nac mewn defnyddio offer anabledd. Bydd angen iddynt ddweud wrthych sut y gallant ddiwallu eich anghenion orau a bydd yn rhaid iddynt wedyn wneud pob ymdrech resymol i wneud hynny.
 

back to top