Cam dau - Trefnu eich taith

Pan fyddwch yn trefnu eich taith, dylech bob amser ddweud wrth eich cwmni awyrennau, eich asiant teithio neu drefnydd teithiau os bydd angen cymorth arnoch pan fyddwch yn teithio.

 

Dylid gofyn am gymorth heb fod yn hwyrach na 48 awr ymlaen llaw ond os byddwch yn gofyn yn fyr rybudd neu os na fyddwch yn rhoi rhybudd o gwbl, rhaid ceisio gwneud trefniadau rhesymol o hyd i'ch helpu.

  •  Gallwch drefnu eich taith dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.
  •  Wrth drefnu eich taith ar-lein, nid yw'n bosibl esbonio eich anghenion cymorth bob amser ac efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni awyrennau, trefnydd teithiau neu eich asiant ar wahân. Ni ddylid codi tâl arnoch am hyn.
  • Cofiwch na fydd staff sy'n gwneud trefniadau ar eich cyfer yn gofyn p'un a oes angen cymorth arnoch yn awtomatig, felly efallai y bydd angen i chi ofyn iddynt gan sicrhau eu bod yn deall eich anghenion yn glir.
  • Gofynnwch i gymorth a drefnir ymlaen llaw gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig ar y tocyn neu'r deithlen. Bydd hyn yn eich helpu i gwyno os na fyddwch yn cael y cymorth cywir.

Cymeradwyaeth feddygol

Mae'n rhaid i chi gael cymeradwyaeth feddygol os gallai hedfan effeithio ar eich iechyd. Nid oes angen hyn ar deithwyr ag anabledd parhaus a sefydlog ac ni ddylid gofyn i chi gael cymeradwyaeth feddygol i brofi bod angen help arnoch. 

Os bydd angen i chi gario meddyginiaeth hylif neu offer meddygol yn eich bag llaw, cofiwch ddod â llythyr gan eich meddyg fel na chewch eich atal rhag dod â'r rhain drwy'r ardal ddiogelwch. Efallai y bydd meddyg yn codi tâl arnoch am y llythyr hwn.

back to top