Cam Pedwar - Cofrestru

Cofiwch gadarnhau unrhyw gymorth a drefnwyd ymlaen llaw pan fyddwch wrth y ddesg gofrestru.

  • Os byddwch yn cofrestru'n electronig ymlaen llaw, dylech allu cadarnhau'r cymorth sydd ei angen arnoch a dewis y sedd fwyaf priodol.
  • Os byddwch yn cofrestru wrth ddesg hunangymorth, dylai staff fod ar gael i'ch helpu.
  • Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, efallai y cewch aros yn eich cadair eich hun nes i chi gyrraedd y giât yn dibynnu ar y math o anabledd sydd gennych neu ei ddifrifoldeb a pha un a ellir llwytho eich cadair olwyn wrth y giât. Os nad yw hyn yn bosibl, caiff eich cadair olwyn ei chofrestru a chewch eich trosglwyddo i un o gadeiriau olwyn y maes awyr a fydd yn addas i'ch anghenion unigol.
  • Gwneir gwiriadau diogelwch ar bob teithiwr a bag, gan gynnwys offer anabledd a chymhorthion symudedd. Dylai staff diogelwch fod yn ymwybodol o'ch anghenion a chynnal chwiliadau mewn ffordd sensitif.

Offer symudedd

Gallwch fynd â hyd at ddwy eitem o offer symudedd gyda chi. Nid yw'n ofynnol i gwmnïau awyrennau eich digolledu’n llawn os caiff yr offer hwn ei golli neu ei ddifrodi felly ystyriwch gael yswiriant ar wahân.

Dylech ofyn bob amser ymlaen llaw a oes unrhyw gyfyngiadau diogelwch ar  offer meddygol penodol megis silindrau ocsigen.


 

back to top