Mae meysydd awyr yn gyfrifol am roi cymorth i deithwyr anabl a'r rheini â lefelau symudedd is er mwyn eu helpu i gyrraedd yr awyren. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys cofrestru wrth y ddesg a mynd drwy'r camau diogelwch. Ni ddylid codi tâl arnoch am y cymorth hwn.
- Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn cwmpasu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau mewn meysydd awyr. Mae hyn yn golygu y dylai arwyddion fod yn glir ac y dylai fod gwasanaethau neu gyfleusterau ychwanegol ar gael fel toiledau hygyrch, ffonau testun, ffonau lefel isel a dolenni sain.
- Dylai seddau cadw fod ar gael i deithwyr anabl a theithwyr sy'n cael anhawster i symud o gwmpas. Dylai'r rhain gael eu dangos ar arwyddion yn glir a byddant yn aml yn agos at ddesg gymorth, sgriniau gwybodaeth a thoiledau hygyrch.
- Mae'n rhaid i feysydd awyr ddarparu gwybodaeth hygyrch am deithiau. Dylai arddangosfeydd gweledol gael eu cynllunio a'u gosod fel y gall pobl â namau ar eu golwg a'r rheini mewn cadeiriau olwyn eu darllen yn hawdd.
- Nid yw rhai meysydd awyr yn gwneud cyhoeddiadau cyhoeddus mwyach. Os na allwch ddarllen gwybodaeth am deithiau ar y sgriniau a ddarperir, dylai staff wneud yn siŵr y cewch y wybodaeth ddiweddaraf.
Defnyddio'r toiledau mewn meysydd awyr
Mae'n rhaid i staff meysydd awyr neu gwmnïau awyrennau, fel y bo’n briodol, eich helpu i ddod o hyd i gyfleusterau toiled cyn, yn ystod ac ar ôl eich taith ond nid yw'n ofynnol iddynt roi cymorth personol mewn ystafelloedd ymolchi.