Creu Prydain Decach
Gall symud o amgylch awyren fod yn anodd oherwydd gofod cyfyngedig.
• Nid oes modd gosod cadeiriau olwyn yn ddiogel yn y caban bob amser felly cânt eu storio yn yr howld fel arfer. Os oes gennych gadair olwyn â motor, dylech sicrhau mai batri cell sych sydd ganddi cyn hedfan. Gallai fod yn ddefnyddiol rhoi nodyn ar eich cadair olwyn i egluro sut mae'n gweithio.
• Mae'n rhaid i gwmnïau awyrennau wneud pob ymdrech resymol i drefnu sedd addas i chi. Mae hyn yn cynnwys gwneud eu gorau i sicrhau y caiff yr unigolyn sy'n teithio gyda chi sedd wrth eich ymyl.
Mae awyrennau newydd yn fwy tebygol o gael gwell mynediad ac o gynnwys nodweddion megis arwyddion, goleuadau a deunyddiau gwell ac mae gan rai awyrennau llydan doiledau hygyrch.
Mae'n rhaid i gwmnïau awyrennau gyfleu gwybodaeth hanfodol am yr hedfa mewn ffordd hygyrch i bob teithiwr drwy gydol eich taith. Os bydd angen brîff personol mewn fformat penodol arnoch, rhowch wybod i griw'r caban.
Mae awyrennau newydd yn fwy tebygol o gael gwell mynediad ac o gynnwys nodweddion megis arwyddion, goleuadau a deunyddiau gwell ac mae gan rai awyrennau llydan doiledau hygyrch. Mae'n rhaid i gwmnïau awyrennau gyfleu gwybodaeth hanfodol am yr hedfa mewn ffordd hygyrch i bob teithiwr drwy gydol eich taith. Os bydd angen brîff personol mewn fformat penodol arnoch, rhowch wybod i griw'r caban.