Cam tri - Cyrraedd y maes awyr
Ceisiwch gael rhagor o wybodaeth am gynllun a chyfleusterau'r maes awyr a ddewiswyd gennych ymlaen llaw drwy ei wefan neu drwy gysylltu ag ef yn uniongyrchol.
- Mae'n rhaid i feysydd awyr gael pwyntiau cymorth. Mae'r rhain wrth fynedfeydd terfynellau, mewn cyfnewidfeydd trên neu fws ac mewn meysydd parcio.
- Os ydych wedi gofyn am gymorth, bydd y wybodaeth hon wedi cael ei throsglwyddo i'r maes awyr. Ar ôl i chi gyrraedd, dylech fynd i'ch pwynt cymorth penodol neu i'r ddesg gofrestru ar yr amser a bennir gan eich cwmni awyrennau.
- Os byddwch yn cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, efallai y bydd gweithredwr yr orsaf neu'r gweithredwr trafnidiaeth yn gallu eich helpu i fynd i'r derfynell ac oddi yno, ac yn aml byddwch yn gweld pwyntiau cymorth arbennig wrth law.
- Am resymau diogelwch, ni allwch barcio y tu allan i derfynfeydd. Felly, defnyddiwch y maes parcio neu fan gollwng agosaf. Dylai fod gan feysydd awyr feysydd parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas a phwynt cymorth - gall meysydd awyr hefyd ddarparu lleoedd i deithwyr sydd angen cymorth arbennig nad ydynt yn ddeiliaid Bathodyn Glas.
- Dylai fod arwyddion clir yn dangos mynediad i gerddwyr a dylai fod yn gwbl hygyrch i bob defnyddiwr.
back to top