Creu Prydain Decach
Cyn i chi deithio, meddyliwch am y math o gymorth a allai fod ei angen arnoch.
Mae'n rhaid i reolau diogelwch mewn awyrennau fod ar gael i'r cyhoedd bob amser a gellir eu gweld ar wefannau cwmnïau hedfan neu drwy gysylltu â hwy.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r rheolau hyn yn datgan na ddylai unrhyw un na all roi ei wregys diogelwch amdano, gadael ei sedd a chyrraedd allanfa frys heb gymorth deithio ar ei ben ei hun. Mae hyn hefyd yn wir yn achos teithwyr sydd angen cymorth wrth anadlu, bwydo, defnyddio'r toiled neu wrth gymryd meddyginiaeth.
Ar awyren fach, gallai fod cyfyngiadau cyfreithlon ond realistig ar nifer y teithwyr anabl a all deithio.
Dim ond os byddai'n torri rheolau diogelwch neu os bydd maint yr awyren neu ei drysau yn gwneud mynd i mewn i'r awyren neu deithio yn gorfforol amhosibl y gall cwmnïau hedfan wrthod gwerthu tocyn i deithiwr anabl neu deithiwr â lefelau symudedd is. Os bydd yn gwrthod gwerthu tocyn, mae'n rhaid i'r cwmni hedfan neu ei asiant eich hysbysu o'r rhesymau dros hyn.