Os bydd angen cymorth arnoch, chi fydd yr olaf i adael fel arfer gan ei bod yn haws symud o gwmpas mewn caban gwag. Fodd bynnag, os bydd angen i chi adael yn gyflym, i ddal awyren arall er enghraifft, dylech ofyn am hyn.
- Lle bynnag y bo'n bosibl, dylai eich offer symudedd fod ar gael i chi'n fuan ar ôl i chi adael yr awyren. Os caiff offer ei golli neu ei ddifrodi, mae'n ofynnol o dan y gyfraith i'r maes awyr roi offer dros dro yn ei le, er na fydd hyn o reidrwydd ar sail tebyg am debyg.
- Mae'n rhaid i staff y maes awyr eich helpu i gasglu eich bagiau, cwblhau gweithdrefnau mewnfudo a thollau, cyrraedd teithiau cysylltiol neu barhau â'r rhan nesaf o'ch taith. Mae hyn yn cynnwys meysydd parcio meysydd awyr.