Rhagor o wybodaeth

Mae'r diwydiant teithio awyr yn gweithio'n galed i fodloni ei rwymedigaethau o dan y gyfraith newydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Adran Drafnidiaeth yn www.dft.gov.uk

Mae'n bwysig dweud wrth eich cwmni awyrennau, maes awyr, asiant trefnu neu'ch gweithredwr hedfan ar unwaith os cewch unrhyw broblemau o ran cael help. Os na fyddwch yn fodlon ar yr ymateb neu os byddwch am gwyno am achos o dorri'r gyfraith, gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol roi cyngor i chi ar sut i wneud hyn.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymdrin â chwynion am gwmnïau awyrennau yn y DU a meysydd awyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon (CCNI). Os oedd y broblem wedi digwydd y tu allan i'r DU neu ar gwmni awyrennau o dramor yn Ewrop, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Mae manylion cyswllt sefydliadau perthnasol i'w gweld ar ein gwefan.

Y canllaw hwn

Noder mai dim ond i gwynion yn ymwneud ag anabledd neu lefelau symudedd is y mae'r canllaw hwn yn berthnasol. Os bydd gennych unrhyw gwynion teithio awyr eraill, cysylltwch â'r Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr. Mae manylion i'w gweld ar ein gwefan.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gan gynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin, ar ein gwefan yn www.equalityhumanrights.com/airtravel  neu drwy gysylltu â'ch llinell gymorth agosaf (gweler y tu mewn i'r dudalen gefn).

 

back to top