Mae’r rhan hon yn trafod eich hawliau chi wrth ddefnyddio pob math o wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys siopau, canolfannau adloniant fel bwytai a sinemâu, gwestai, banciau a gwasanaethau ariannol, clybiau chwaraeon, addoldai a mannau cyhoeddus.
Ni all busnesau a sefydliadau wahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail anabledd, hil, rhyw, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol wrth roi gwasanaethau i bobl. Mae hyn lawn mor berthnasol wrth roi gwasanaethau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, a ph’un a oes angen talu am y gwasanaeth ai peidio. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb yn berthnasol i glybiau aelodau preifat. Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail oed ym maes nwyddau a gwasanaethau.
Cewch fwy o wybodaeth am eich hawl i gael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu anghyfreithlon gan rai sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd, yn ogystal ag enghreifftiau o driniaeth annheg neu wahaniaethu posibl. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y meysydd canlynol hefyd: