Mae gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i ddefnyddio’u gwasanaethau, waeth beth fo’u hanabledd, hil, rhyw, cred, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae’r ddeddf hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau ar ran awdurdod cyhoeddus (er enghraifft, gwasanaeth ar gontract).
Nid yw’r gyfraith ar wahaniaethu yn berthnasol dan rai amgylchiadau. Gweler Pryd mae’n gyfreithlon i wahaniaethu.
Yn gyffredinol, mae gofyn i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus wneud addasiadau rhesymol er mwyn i bobl anabl allu defnyddio’u hadeiladau. Gallant drin pobl anabl yn fwy ffafriol hefyd os yw hyn yn sicrhau mynediad cyfartal.
Mae ysbyty yn neilltuo lle parcio ger y fynedfa i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd yn unig. Efallai bod pobl nad ydynt yn anabl a phobl heb broblemau symudedd, eisiau lle parcio hefyd. Gallai fod yn anghyfleus iddynt gerdded y pellter ychwanegol. Er hynny, mae pobl â phroblemau symudedd dan fwy o anfantais nag eraill os nad oes lle parcio penodol iddynt. Efallai na fyddai modd iddynt weithio i’r awdurdod neu gael gwasanaeth heb gael triniaeth fwy ffafriol gyda lleoedd parcio penodol ar eu cyfer.
Mwy o wybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol awdurdodau cyhoeddus.
Mae gwasanaeth claddu’r cyngor ar gau bob penwythnos. Er bod yr amod hwn yn berthnasol i bawb, mae’n rhoi Moslemiaid ac Iddewon Uniongred dan anfantais arbennig, gan fod eu crefydd yn gofyn iddynt gladdu eu meirw o fewn 24 awr. Gallai polisi’r Cyngor o beidio ag agor ar benwythnosau fod yn enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd a chred.
Mae dyn gydag arthritis eisiau ymweld â phlasty sydd ar agor i’r cyhoedd. Does dim ramp na rheilen law yno, ac felly nid yw’n gallu mynd i mewn i’r adeilad. Mae’r perchennog wedi cymryd na all wneud newidiadau i’r tŷ gan ei fod yn adeilad rhestredig. Mae darparwyr gwasanaethau ond wedi’u heithrio o’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os nad oes ganddynt unrhyw ddewis yn y mater.
Yn yr achos hwn, mae’r ffaith nad yw’r perchennog wedi gofyn caniatâd i wneud addasiadau rhesymol yn golygu ei fod wedi ymddwyn yn groes i’r gyfraith.