Yr hawl i gael treial teg

Mae gan bawb yr hawl i gael treial teg, ac mae gan y llysoedd ddyletswydd i weithredu hyn.

Dyma rai pethau sy’n gwneud treial yn deg:

  • cael ei gynnal yn gyhoeddus
  • cael ei gynnal o fewn amser rhesymol
  • bod yn annibynnol ac yn ddiduedd, a
  • rhagdybio dieuogrwydd.

Os ydych chi’n cael eich cyhuddo o drosedd, mae gennych chi’r hawliau sylfaenol canlynol:

  • cael gwybod yn brydlon ac yn fanwl, mewn iaith rydych chi’n ei deall, beth yw’r cyhuddiad yn eich erbyn a pham rydych chi wedi cael eich cyhuddo
  • cadw’n ddistaw
  • cael digon o amser a chyfleusterau i baratoi eich amddiffyniad
  • cael gweld yr holl wybodaeth berthnasol eich amddiffyn eich hun yn bersonol neu ddewis pwy fydd yn eich amddiffyn cael cymorth cyfreithiol am ddim os na allwch chi ei fforddio i’r tystion o’ch plaid ac yn eich erbyn gael eu trin yr un peth
  • cael cymorth cyfieithydd am ddim os na allwch chi ddeall neu siarad yr iaith a ddefnyddir mewn llys.

Os na fydd pob un o’r hawliau hyn yn cael eu dilyn, efallai na fydd eich treial yn deg.

Mae’r hawl i gael treial teg yn mynd y tu hwnt i ymdrin yn briodol â phethau mewn gwrandawiad llys: rhaid ystyried yr holl broses gyfreithiol.  Er enghraifft, gallai ystyried p’un a yw treial yn deg gynnwys sicrhau bod yr heddlu wedi dilyn gweithdrefnau priodol wrth ymchwilio a chyhuddo. Gallai olygu y dylai unrhyw broses benderfynu gynnwys cyfnod apelio.

Mae’r hawl i gael treial teg hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennych chi fynediad i’r llysoedd yn y lle cyntaf. Mwy o wybodaeth am yr hawl i gael treial teg.

back to top