Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb sy’n eich diogelu rhag gwahaniaethu, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi nifer o hawliau dynol i chi sy’n arbennig o berthnasol i dai ac eiddo:
• yr hawl i berchen, a mwynhau perchen, eiddo
• yr hawl i barch tuag at eich bywyd personol
• yr hawl i barch tuag at eich bywyd teuluol
• yr hawl i barch tuag at eich cartref.
Yn yr adran hon o’r wefan, gallwch chi gael gwybodaeth am eich hawliau o ran tai ac eiddo. Gallwch chi hefyd ganfod sut mae’r gyfraith yn diffinio gwahaniaethu, ac mae yna wybodaeth am yr amgylchiadau prin lle gallai gwahaniaethu fod yn gyfreithlon. Cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail eich rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred, neu anabledd. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sy’n gwneud gwahaniaethu ar sail oedran yn anghyfreithlon mewn meysydd ar wahân i gyflogaeth a gweithgareddau perthnasol ar hyn o bryd.
Os ydych chi’n anabl, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhoi rhai hawliau i chi wrth rentu eiddo hefyd. Mwy o wybodaeth am y diffiniad o anabledd.
Mae’r term ‘tai ac eiddo’ yn cynnwys llety preswyl fel fflatiau, tai, byngalos a thai symudol, safleoedd carafannau, yn ogystal â thai ‘brics a morter’ ac eiddo masnachol. Mae’r adran hon yn cynnwys llety a rentir gan denantiaid ac ymdrin â landlordiaid, asiantwyr gosod, a pherchnogion neu reolwyr eiddo, yn ogystal â llety lle mae’r perchennog yn byw ynddo a thai neu eiddo sy’n berchen i gymdeithasau tai ac awdurdodau cyhoeddus.
Defnyddir y gair ‘eiddo’ yn yr adran hon i olygu’r holl fathau o adeiladau a nodwyd uchod.
Nid yw’r adran hon yn cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol y rheiny sy’n darparu tai a gwasanaethau perthnasol, boed y rheiny yn y sector cyhoeddus, preifat, cymunedol neu wirfoddol. Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau’r darparwyr gwasanaeth.
Nid yw’r adran hon yn cynnwys holl gyfrifoldebau’r awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb ac ymdrin â gwahaniaethu. Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau’r awdurdodau cyhoeddus.
Nid yw’r adran hon yn ymdrin yn llawn â phobl sy’n byw mewn tai gofal preswyl na thai gwarchod chwaith. Mwy o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â gofal cymdeithasol.