Creu Prydain Decach
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ystyried eu polisïau, arferion a gweithdrefnau er mwyn sicrhau nad yw neb yn dioddef gwahaniaethu neu dan anfantais wrth deithio. Mae deddfau fel y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu cerbydau a llongau gan gynnwys:
Yn ogystal â’r seilwaith a’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth trafnidiaeth, fel gorsafoedd, arosfannau, meysydd awyr ac amserlenni, mae’r gyfraith yn effeithio ar bawb sy’n gysylltiedig â’r broses o roi gwasanaethau – o’r cyfarwyddwr neu’r rheolwr ar y brig i’r gweithiwr cyflogedig iau, boed yn llawn neu’n rhan-amser, parhaol neu dros dro. Does dim gwahaniaeth a yw’r gwasanaethau dan sylw’n cael eu darparu gan weithredwr unigol, cwmni, neu sefydliad arall, neu a yw’r sawl sy’n darparu gwasanaethau yn hunangyflogedig neu’n weithiwr cyflogedig, gwirfoddolwr, contractwr neu asiant.
Yn ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae’n rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus gymryd camau rhesymol i gynnig cymhorthion neu wasanaethau i sicrhau bode u gwasanaethau ar gael i bobl ag anableddau, boed yn ymwneud â symudedd, clyw neu’r golwg.