Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn ymwneud â gweithredoedd pobl, ac effeithiau hynny, nid eu safbwyntiau neu eu barn. Nid yw gwahaniaethu ar sail hil yr un fath â rhagfarn hiliol. Nid oes rhaid profi bod rhywun arall wedi bwriadu gwahaniaethu yn eich erbyn: dim ond dangos eich bod wedi cael triniaeth llai ffafriol yn sgil yr hyn a wnaethant.
O dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, mae’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn erbyn rhywun arall ar sail hil.
Mae’r Ddeddf yn diffinio seiliau hiliol i gynnwys hil, lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
Er mwyn cyflwyno achos o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, mae’n rhaid i chi ddangos bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn mewn un neu sawl modd anghyfreithlon o dan y Ddeddf.