Mae pedwar math gwahanol o wahaniaethu hiliol: uniongyrchol, anuniongyrchol, erledigaeth ac aflonyddu.
Mae hyn yn digwydd pan allwch chi ddangos eich bod wedi’ch trin yn llai ffafriol ar sail hil o gymharu â phobl eraill mewn amgylchiadau tebyg. I brofi hyn, byddai’n fanteisiol pe baech yn gallu rhoi enghraifft o rywun o grŵp hiliol gwahanol sydd wedi neu a fyddai wedi cael ei drin yn fwy ffafriol na chi mewn amgylchiadau tebyg. Mae cam-drin ac aflonyddu hiliol yn fathau o wahaniaethu uniongyrchol.
Roedd Mr Souster, cyflwynydd rhaglen Rugby Special BBC Scotland yn cwyno iddo golli ei swydd oherwydd ei fod yn Sais, a bod y BBC eisiau cyflwynydd Albanaidd. Roedd Mr Souster yn honni mai mater o genedligrwydd oedd bod yn Sais, ond roedd y BBC yn dadlau bod yr Albanwyr a’r Saeson yn rhannu pasbort Prydeinig ac felly nad oedd modd gwahaniaethu’n anghyfreithlon rhwng gwahanol rannau o un genedl. Roedd Llys Sesiwn yr Alban, oedd yn gorfod penderfynu a oedd y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (y Ddeddf) yn cynnwys gwahaniaethu rhwng yr Albanwyr a’r Saeson, yn dadlau bod modd dehongli cenedligrwydd yn fwy hyblyg ac ehangach na thrwy gyfeirio at basbort yn unig. Gan fod yr Alban a Lloegr yn genhedloedd ar wahân ar un adeg, mae tarddiad cenedlaethol Albanwyr a Saeson yn wahanol, ac felly mae’r Ddeddf yn cwmpasu achosion o wahaniaethu rhyngddynt.
O ran penderfynu a yw’r Albanwyr a’r Saeson yn rhan o’r un ‘grŵp hiliol’, fe ddilynodd y Llys Sesiwn benderfyniad Tŷ’r Arglwyddi mewn achos cynharach (Mandla v Dowell-Lee, 1983 IRLR 209) sef bod modd i rywun berthyn i grŵp hiliol penodol naill ai trwy enedigaeth neu ymlyniad. Roedd y llys hefyd o’r farn os yw rhywun yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun arall ar sail canfyddiad o’i darddiad cenedlaethol neu ethnig, yna mae eu gwreiddiau gwirioneddol, heb sôn am eu pasbort, yn amherthnasol.
Mae’r diffiniad o seiliau hiliol yn amlwg yn ystyried realiti cymhleth hunaniaeth genedlaethol, lle gall rhywun newid ei genedligrwydd trwy briodas neu ymfudo daearyddol neu hyd yn oed trwy gysylltiad, yn ogystal â chymhlethdod rhagfarn hiliol, lle mae rhywun sy’n gwahaniaethu o bosibl yn gwneud hynny oherwydd anwybodaeth lwyr am genedligrwydd neu dras y sawl sy’n dioddef.
Gall gwahaniaethu anuniongyrchol berthyn i un o ddau gategori, yn dibynnu ar ba sail mae rhywun yn gwahaniaethu ar sail hil. Mae’r categori cyntaf ar sail lliw neu genedligrwydd, o dan ddiffiniad gwreiddiol y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae’r ail gategori ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol. Cyflwynwyd hyn gan Reoliadau’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2003 i gydymffurfio â Chyfarwyddeb Hil y CE.
Roedd gweithiwr Affricanaidd du wedi gwneud cais am swydd rheolwr cyfle cyfartal ei sefydliad. Ar ôl ei asesu, gwelwyd bod ganddo’r sgiliau a’r gallu i wneud y gwaith. Er hynny, cafodd ei wrthod oherwydd – yn ddiarwybod iddo – dim ond staff parhaol ar raddau uwch nag ef oedd yn cael ymgeisio. Roedd y data monitro yn dangos nad oedd gan y sefydliad weithwyr Affricanaidd du parhaol ar y raddfa dan sylw.
Daeth tribiwnlys cyflogaeth i’r farn nad oedd cyfiawnhad dros y gofyniad hwn, a’i fod yn enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil.
Mae hyn yn digwydd pan fo gofyniad neu amod sy’n ymddangos yn anwahaniaethol, ac sydd lawn mor berthnasol i bawb:
Er enghraifft, rheol sy’n dweud nad yw gweithwyr neu ddisgyblion yn cael gwisgo penwisg, sy’n eithrio dynion a bechgyn Sikhaidd sy’n gwisgo twrban, neu ddynion neu fechgyn Iddewig sy’n gwisgo cap corun, yn unol â thraddodiad eu grŵp hiliol.
Mae hyn yn digwydd pan fo darpariaeth, maen prawf neu arferion, nad oes ganddynt ddim oll i’w wneud â hil ar yr olwg gyntaf, ac sydd lawn mor berthnasol i bawb:
Mae’r diffiniad o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol mewn termau cyffredinol yn ehangach nag ar sail hil eu genedligrwydd, ac efallai ei bod hi’n haws pennu achos o wahaniaethu ar sail hil nag o’r blaen.
Mae gan hyn ystyr cyfreithiol arbennig o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae’n digwydd os ydych chi’n cael eich trin yn llai ffafriol nag eraill dan yr un amgylchiadau oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu ar sail hil, neu wedi cefnogi rhywun a gwynodd am hynny. Mae cwyn am wahaniaethu ar sail hil yn golygu bod rhywun:
Mae’r diffiniad o aflonyddu a gyflwynwyd gan Reoliadau Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Diwygio) 2003 yn berthasol pan fo’r achos o wahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol, ond nid ar sail lliw neu genedligrwydd. Mae aflonyddu ar sail lliw neu genedligrwydd yn gyfystyr â trin rhywun yn llai ffafriol, a gall fod yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.
Mae rhywun yn aflonyddu ar rywun arall ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol pan fo ef neu hi’n ymddwyn mewn modd annymunol, fel:
Roedd brodor o’r India a phennaeth yr adran gredyd gyda banc Siapaneaidd rhyngwladol yn Llundain wedi ymddiswyddo, gan honni ei fod wedi’i drin fel ‘dinesydd eilradd’ gan ei gyflogwyr Siapaneaidd. Dywedodd ei fod wedi’i sarhau a’i anwybyddu gan weithwyr oedd yn siarad Siapanaeg, ac nad oedd yn cael digon o gyflog am nad oedd yn Siapaneaidd. Dadl y banc oedd ei bod hi’n ‘naturiol’ i’r staff Siapaneaidd siarad gyda’i gilydd yn eu mamiaith.
Roedd tribiwnlys cyflogaeth yn cyd-fynd â honiad yr achwynydd fod y banc wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn, nid oherwydd ei dras Indiaidd, ond am nad oedd yn Siapaneaidd. Dywedodd y tribiwnlys fod y banc i bob pwrpas wedi mabwysiadu arferiad o eithrio’r achwynydd o weithgareddau amrywiol, ac wedi’i drin yn llai ffafriol nag eraill. Cafodd yr achwynydd tua £1 miliwn o iawndal.
Yn ogystal â chyflogaeth, mae aflonyddu yn anghyfreithlon yng nghyd-destun:
Mae hefyd yn ffordd anghyfreithlon o wahaniaethu ym maes addysg, cynllunio, mewn awdurdodau cyhoeddus, wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau, gwasanaethau ac adeiladau, ac mewn perthynas â hyfforddi a chyflogi bargyfreithwyr ac adfocadau.