A yw gwahaniaethu ar sail oedran yn berthnasol i mi?

Dim ond ym meysydd cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol y mae cyfraith gwahaniaethu ar sail oedran yn berthnasol ar hyn o bryd, lle’r ydych chi wedi cael eich trin yn llai ffafriol ar sail eich oedran, heb gyfiawnhad.  Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn cael eich ystyried yn rhy ifanc neu’n rhy hen.

Nid yw cyfraith gwahaniaethu ar sail oedran yn berthnasol i nwyddau a gwasanaethau ar hyn o bryd, ond gallai cyfraith hawliau dynol roi ychydig o amddiffyniad yn y meysydd hyn.

Yn gyfreithiol, yr hyn sy’n ganolog i lawer o achosion posibl o wahaniaethu ar sail oedran yw pennu a ellir cyfiawnhau’r gwahaniaethu.  Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r mathau eraill o wahaniaethu, gellir defnyddio cyfiawnhad yn gyfreithlon fel amddiffyniad dros wahaniaethu ar sail oedran, yn ogystal â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran.

 

back to top