Ar y cyntaf o Hydref 2012, daeth y darpariaethau newydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i rym, gan ymestyn y gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oedran i gynnwys gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chlybiau preifat a chymdeithasau – gyda rhai eithriadau nodedig.
Bydd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail oedran, aflonyddu ac erledigaeth yn anghyfreithlon wrth ddarparu gwasanaethau ac wrth ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n amherthnasol a yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol a pha’ un a yw am dal neu yn rhad ac am ddim.
Mae’r gwaharddiad newydd yn golygu na fydd darparwyr, yn y rhan fwyaf o achosion, yn gallu gweithredu terfynau oedran uwch nac is.
Nid yw’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oedran o ran gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn gymwys i bobl ifanc dan ddeunaw oed. Yn groes i hyn, mae’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oedran o ran clybiau a chymdeithasau yn gymwys i bob oedran. Ymhob un o’r sectorau hyn, caiff consesiynau a buddion eu caniatáu o hyd (gweler eithriadau isod).
Yn wahanol i’r nodweddion gwarchodedig eraill o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran os gellir gwneud hynny’n wrthrychol - sef ei fod yn, ‘fodd cymesur i gyflawni nod cyfreithlon’.
Mae hyn yn cydnabod bod rhai triniaethau gwahaniaethol ar sail oedran yn gymdeithasol dderbyniol. Fodd bynnag, nid yw’n eglur sut fydd y Llysoedd yn cymhwyso’r prawf cyfreithiol hwn.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae rhai eithriadau cyffredinol sy’n caniatáu gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau, wrth ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus ac yng ngweithgareddau cymdeithasau y mae’r Ddeddf fel arall yn gwahardd. Mae’r eithriadau hyn yn gymwys i oedran yn awr.
Yn ychwanegol, ochr yn ochr â’r gwaharddiad gwahaniaethu newydd ar sail oedran, mae rhai eithriadau newydd yn awr sy’n berthnasol i oedran yn benodol. Mae’r eithriadau hyn yn caniatáu:
Ar gyfer clybiau a chymdeithasau, mae, hefyd, eithriad sydd yn eu caniatáu i gynnig consesiynau sydd yn seiliedig ar oedran, megis taliadau aelodaeth rhatach ar gyfer grwpiau oedran penodol.
Mae’n bwysig i nodi nad oes diogelwch o hyd rhag gwahaniaethu ar sail oedran o ran eiddo. Mae hyn oherwydd bod polisi’r gyfraith yn caniatau i landlordiaid barhau i dargedu llety at grwpiau oedran penodol.
Mae’r gwasanaethau ariannol yn eu cyfanrwydd wedi’u heithrio rhag y gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed - ac eithrio lle mae asesu risg mewn perthynas ag oedran yn digwydd. Os mai felly y mae, mae rhaid asesu drwy gyfeirio at wybodaeth ‘berthnasol’ o ‘ffynhonnell y mae’n rhesymol i ddibynnu arni’. Nid yw’r Senedd wedi darparu unrhyw ddiffiniad o’r termau hyn. Mae’r eithriad hwn yn eang iawn ac mae’r Comisiwn yn pryderu y bydd unrhyw wrthod anrhesymol o ran gwasanaethau neu anfantais anghymesur yn seiliedig ar oed yn anodd ei herio yn y sector gwasanaethau ariannol.
Bydd darparwyr gwasanaeth yn dal yn cael cynnig consesiynau yn seiliedig ar oedran i wasanaethau sydd yn gyffredinol ar gael i bob grŵp oedran. Er enghraifft, ar gyfer yr henoed, bydd hi’n gyfreithlon i gynnig prisiau teithio rhatach a diwrnodau prisiau rhatach mewn siopau trin gwallt a siopau DIY. Yn ogystal, bydd hi’n gyfreithlon i gynnig prisiau rhatach i oedolion ifanc - er enghraifft, mewn canolfannau hamdden.
Nid oes eithriad penodol i iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu gall sefydliadau sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu neu gyflawni gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gyflenwi gwasanaeth gwahanol o ran trin defnyddwyr gwasanaeth o ran grwpiau oed gwahanol yn unig os gellir cyfiawnhau hynny’n wrthrychol. Fodd bynnag, bydd gwasanaethau presennol yn y sectorau hyn sy’n seiliedig ar oedran yn gallu bodloni’r prawf cyfreithiol hwn; er enghraifft, pigiadau ffliw gaeaf ar gyfer yr henoed sy’n 65 neu fwy.
Fel gydag unrhyw ddeddfwriaeth newydd, bydd hi’n bwysig i’r llysoedd egluro’r modd y defnyddir y gwaharddiad newydd ar wahaniaethu ar sail oedran. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y grym i ategu ymgyfreithio strategol o ran Deddf Cydraddoldeb 2010 a byddai diddordeb gennym i glywed am unrhyw achosion sydd ar fin digwydd.
Fel y rheolydd cydraddoldeb, rydym, hefyd, yn gyfrifol am sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yn rhoi’r gorau i unrhyw ymarferion sydd yn gwahaniaethu. Os bydd rhaid, gallwn gymryd camau gorfodi pan gawn dystiolaeth o anghydffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Felly, rhowch wybod i ni am unrhyw wahaniaethu sy’n parhau ym myd gwasanaethau.
Gall unigolion sy’n credu eu bod efallai wedi dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb am gyngor. Mae’r gwasanaeth yn un newydd ac wedi disodli Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Bydd ar agor o 9am 1 Hydref 2012.
Y rhifau cyswllt am y gwasanaeth newydd yw:
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn Testun: 0808 800 0084
Oriau Arferol:
09:00 i 20:00 ddydd Llun i ddydd Gwener
10:00 i 14:00 ddydd Sadwrn
Ar gau ddydd Sul a Gwyliau’r Banc
Post: FREEPOST Equality Advisory Support Service FPN4431