Creu Prydain Decach
Gallai pobl ddioddef gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail oedran yn y gwaith ac mewn addysg a hyfforddiant.
Enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran fyddai cwmni TG sydd â pholisi o beidio â chyflogi gweithwyr hŷn am nad ydynt yn cyd-fynd â delwedd ifanc y cwmni. Mae’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran yn berthnasol i bob maes cyflogaeth: o hysbysebu swyddi i reolau pensiwn. Mae yna amgylchiadau, fodd bynnag, lle caniateir gwahaniaethu ar sail oedran.
Dylai pawb gael y cyfle i ddysgu a chael hyfforddiant, ac mae darparwyr addysg mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch yn gorfod cydymffurfio â rheoliadau oedran. Enghraifft o hyn fyddai unigolyn 16 mlwydd oed sy’n ymgeisio am gwrs hyfforddi galwedigaethol er mwyn gwella ei chyfle i gael dyrchafiad yn ei chwmni. Nid yw’n cael ei derbyn ar gynllun hyfforddi’r cwmni am ei bod hi’n rhy ifanc. O dan y rheoliadau oedran, ni fyddai gan ei chyflogwr hawl i’w rhwystro rhag cael hyfforddiant pellach ar sail ei hoedran.
Fodd bynnag, gellir cyfiawnhau cyfyngu addysg neu hyfforddiant galwedigaethol i oedran arbennig weithiau - cyn belled â’i fod yn ffordd deg o gyflawni nod dilys.Enghraifft o hyn fyddai sefydliad addysgol sy’n cynnig lle i fwy o bobl o grŵp oedran arbennig ar gwrs hyfforddi er mwyn sicrhau bod yr adran honno o’r boblogaeth yn cael ei hintegreiddio yn y gweithlu. Mae hon yn enghraifft o weithred gadarnhaol.