Deall y termau a ddefnyddir

Materion ac iaith trawsryweddol

Yn ôl y ffigurau diweddaraf yn 2009 (GIRES), mae tua 1500 o oedolion yn gofyn am gyngor meddygol (yn y DU bob blwyddyn) ar eu hunaniaeth o ran rhywedd. Mae’r nifer wedi cynyddu’n sylweddol yn y pum mlynedd diwethaf.  Bydd cyfran o’r bobl hyn yn mynd ymlaen i’r pwynt lle maent yn newid eu rôl rhywedd cymdeithasol yn barhaol.  Amlygir hyn gyda’r ffaith bod tua 300 o bobl yn ceisio cydnabyddiaeth gyfreithiol bob blwyddyn o dan Ddeddf Cydnabod Rhyw 2004.

Hefyd, mae nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio am werthusiad arbenigol gan yr unig ganolfan ar gyfer hyn yn y DU; Clinig Tavistock a Portman.  Mae’r niferoedd yn cynyddu’n gyflym, wrth i ymwybyddiaeth o faterion hunaniaeth o ran rhywedd gynyddu.  Mae nifer y bobl ifanc sydd bellach yn newid rolau rhywedd cymdeithasol mewn ysgolion hefyd ar gynnydd.

Y term meddygol am bobl sy’n anghyfforddus gyda’r rôl y mae disgwyl iddynt ei chyflawni yn sgil eu rhyw corfforol adeg eu geni yw ‘Anesmwythder Rhyw’.  Disgrifir y rhai hynny sy’n ceisio newid eu hedrychiad corfforol allanol yn barhaol er mwyn byw yn fwy cyfforddus yn rôl y rhyw arall yn ‘bobl drawsrywiol’.

Mae’r broses o newid rôl rhywedd rywun yn cael ei galw’n ‘drawsnewid’.

Roedd defnydd gwreiddiol yr Americanwyr o’r term ‘trawsryweddol’ yn cyfeirio at bobl sy’n mabwysiadu rôl y rhyw arall o’r rhyw yr oeddynt adeg eu geni, ond heb y diagnosis a’r rheolaeth glinigol ffurfiol sy’n gysylltiedig â’r term ‘trawsrywiol’. 

Efallai y byddant yn newid rôl yn barhaol neu am gyfnod yn unig.  Fodd bynnag, mae’n anodd diffinio’r gwahaniaethau gan fod rhai pobl yn derbyn hormonau yn answyddogol a/neu’n mynd dramor ar gyfer llawdriniaethau a drefnir yn breifat.
Yn anochel, mae’n llawer anoddach amcangyfrif faint o’r bobl hyn sydd i’w cael, er y credir bod yna lawer iawn ohonynt.  Mae pobl drawsryweddol fel hyn yr un mor debygol o wynebu gwahaniaethu â phobl drawsrywiol y mae eu proses drawsnewid rhywiol wedi’i goruchwylio’n feddygol.

Erbyn heddiw, defnyddir y term ‘trawsryweddol’ gan lawer fel term ambarél (fel y gwneir ar y wefan hon).  Gair arall a ddefnyddir yw ‘traws’.  Mae’n well gan rai ddefnyddio ‘traws’ gan ei fod yn osgoi amwysedd ac yn cydnabod ystyr unigryw gwreiddiol ‘trawsryweddol’.

Mae traws fel term ambarél yn cynnwys pobl drawsrywiol, pobl drawsryweddol, pobl sy’n croeswisgo ac amrywiaeth o fathau eraill o hunaniaeth a mynegiant.  Nid yw pobl eraill yn debygol o fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau ac felly’n eu gweld fel rhywun sy’n torri ‘rheolau’ rhyw confensiynol.

Mae pobl yn anghytuno ar ba derm sydd orau ganddynt.  Felly, yr arfer mwyaf diogel yw gofyn i rywun sut yr hoffent gael eu disgrifio.  

Mae'n syniad da defnyddio 'r termau hyn fel ansoddeiriau'n unig a dylid cyfeirio at 'berson trawsryweddol' yn hytrach na 'pherson wedi'i drawsryweddu'.

Waeth pa mor bell yn y cyfnod o drawsnewid y mae’r person trawsryweddol wedi cyrraedd, mae’n gwrtais a pharchus defnyddio termau sy’n cydnabod eu hunaniaeth fel dyn neu fenyw.  Felly, fel arfer byddai person trawsrywiol sy’n trawsnewid o rôl gwryw i un benyw am gael eu hadnabod fel ‘hi’ ac am i bobl gyfeirio ati fel menyw.  Mae’r un peth yn berthnasol i’r gwrthwyneb i ddynion trawsryweddol (sy’n trawsnewid o fod yn fenyw i wryw).

Felly, mae’n eithaf amlwg fod pobl drawsryweddol yn amrywiol.  Mae pobl yn ystyried ac yn mynegi eu hunaniaeth o ran rhywedd mewn gwahanol ffyrdd.  Ond mae’r profiad o wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth neu ganlyniadau niweidiol yn gyffredin i bob person trawsryweddol a thrawsrywiol.

back to top