Mae’r gyfraith ledled y Deyrnas Unedig yn caniatáu i bobl newid eu henw ar unrhyw adeg a heb unrhyw ganiatâd neu broses arbennig. Mae hyn yn berthnasol i bawb, gan gynnwys pobl sy’n newid eu rhyw.
Ar ei ffurf symlaf gall unrhyw un newid eu henw’n syml drwy gyhoeddi’r ffaith i bawb y maent yn ymdrin â hwy.
Yn ymarferol, mae llawer o awdurdodau (e.e. banciau) yn gofyn am rywbeth mwy diriaethol er mwyn newid y cofnodion y maent yn eu cadw amdanoch chi.
Ar un adeg y dull mwyaf poblogaidd oedd “Gweithred Newid Enw”. Erbyn heddiw, mae pobl fel arfer yn defnyddio offeryn cyfreithiol o’r enw ‘Datganiad Statudol’.
Yr amser gorau i ffurfioli newid enw fel hyn yw pan fyddwch yn dechrau byw’n llawn amser yn eich rôl rhywedd (‘caffaeledig’) newydd.
Gall mwyafrif o gyfreithwyr y stryd fawr eich helpu i lunio Datganiad Statudol. Mae yna eiriau safonol y byddwch yn eu defnyddio i ymwrthod yn ffurfiol â’ch enw blaenorol ac yn datgan eich bod o hyn allan yn bwriadu defnyddio’r un newydd at bob diben. Byddwch yn llofnodi’r datganiad gyda’r ddau enw ac yna bydd y cyfreithiwr yn rhoi stamp swyddogol ar y ddogfen.
Fel arfer, mae’r broses Datganiad Statudol yn cymryd llai na 15 munud ac nid yw’n ddrud. Ar ôl hynny, gallwch ddangos y datganiad i fanciau, cymdeithasau adeiladu, sefydliadau addysgol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid y Wlad ac ati a gofyn iddynt newid eu cofnodion yn unol â hynny. Gallant ond gweithredu’r un cyfyngiadau ag y byddent ar gyfer unrhyw un arall sy’n gwneud yr un peth. Byddai gweithredu unrhyw reolau gwahanol gan eich bod yn newid eich rhyw yn wahaniaethu’n uniongyrchol ar sail rhyw.
Mae gan rai sefydliadau weithdrefnau penodol ar gyfer prosesu newidiadau enw mewn perthynas â newid rhyw. Yn aml, mae’r gweithdrefnau hyn wedi bod ar waith ers 30-40 mlynedd ac nid yw’r Ddeddf Cydnabod Rhyw yn effeithio’n negyddol arnynt mewn unrhyw ffordd.
Roedd prosesau fel hyn ar waith cyn y Ddeddf Cydnabod Rhyw ac nid ydynt wedi newid yn sgil cyflwyno’r broses cydnabyddiaeth gyfreithiol ffurfiol.
Dylai sefydliadau eraill fel cyflogwyr, sefydliadau addysgol, cyrff cofrestru, eich meddyg teulu GIG lleol, ysbytai, cwmnïau cyfleustodau, a chyflenwyr gwasanaethau fel banciau hefyd baratoi i newid eich manylion ar gais. Gall rhai ofyn am dystiolaeth ar ffurf datganiad statudol o’ch newid enw, ond dyna’r cwbl.
Efallai bod rhai sefydliadau’n camdybio nad ydynt i fod i newid eu cofnodion i ddangos eich enw newydd a’ch teitl priodol (Me, Miss ac ati) tan i chi gael Tystysgrif Cydnabod Rhyw. Mae hyn yn anghywir ac yn y mwyafrif o achosion byddai’n gyfystyr â gwahaniaethu.
Hefyd, nid oes gan unrhyw un yr hawl i weld neu gofnodi manylion Tystysgrif Cydnabod Rhyw os oes gennych chi un. Os oes rhywun yn gofyn am dystiolaeth o’ch rhyw cyfreithiol, gallech ddangos eich tystsygrif geni iddynt.
Mae’r Dystysgrif Cydnabod Rhyw yn bodoli er mwyn i’r Panel Cydnabod Rhyw roi cyfarwyddyd i’r Cofrestrydd Genedigaethau wneud cofnod newydd ar y gofrestr yn unig, er mwyn gallu llunio tystysgrif geni. Mae’r ddogfen yn nodi’n glir nad oes diben arall iddi. Byddai cofnodi eich bod wedi gweld y Dystysgrif yn arwain yn awtomatig at dorri Adran 22 o’r Ddeddf Cydnabod Rhyw, oherwydd y gallai gadael i berson arall weld y cofnod fod yn achos o ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir yn anghyfreithlon. Felly, dylid cynghori swyddogion i beidio â llunio rheolau eu hunain o ran Tystysgrifau Cydnabod Rhyw.
Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf Cydnabod Rhyw, ewch i ‘Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud’