Diwygiwyd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ym mis Ebrill 2008 i amddiffyn pobl drawsrywiol rhag gwahaniaethu ac aflonyddu wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hyn yn ychwanegu at yr amddiffyniad blaenorol ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol.
Mae’r gyfraith yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus a masnachol a mentrau.
Er enghraifft:
Enghreifftiau’n unig yw’r rhain. Mae’r gyfraith yn gymwys o dan y mwyafrif o amgylchiadau, gydag ambell i eithriad yn unig. Mae’r eithriadau’n cynnwys:
Gellir gwneud eithriad ar gyfer sefydliadau crefyddol dim ond o dan yr amgylchiadau cyfyngedig lle ‘mae’r lle yn cael ei feddiannu neu ei ddefnyddio (yn barhaol neu dros dro) at ddibenion crefydd gyfundrefnol, a bod y cyfleusterau neu wasanaethau’n cael eu cyfyngu i ddynion er mwyn cydymffurfio ag athrawiaethau’r grefydd honno neu i osgoi tramgwyddo teimladau crefyddol nifer sylweddol o’i ddilynwyr’.
Mewn ysbytai a sefydliadau ar gyfer pobl sydd angen gofal a sylw arbennig, efallai ei bod hi’n iawn cymryd agwedd llai ffafriol at bobl drawsrywiol wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau cyn belled bod gwneud hynny’n ffordd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon. Mae eithriadau cyfyngedig tebyg yn berthnasol i elusennau a’r defnydd o lety cymunedol.
Mae person trawsrywiol neu drawsryweddol sydd wedi neu sydd wrthi’n ailbennu ei rywedd am ddefnyddio cyfleusterau mewn canolfan chwaraeon leol, ond mae’n ofni y bydd yn wynebu rhwystrau neu wahaniaethu. Mae’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi llunio canllawiau am bobl drawsrywiol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon (Pdf) sydd ar gael ar y wefan Press for Change. Mae Press for Change hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer rheolwyr canolfannau chwaraeon ar sut mae helpu pobl drawsrywiol neu drawsryweddol i allu defnyddio’u gwasanaethau’n ddiogel.